Marcio UKCA - effaith Brexit ar Farcio CE
Marc CE a Phrynu o'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd
- Cefndir
- Dyletswyddau'r Cyflenwr
- Asesiadau Cydymffurfiaeth
- A yw’r Nod CE yn Warant Diogelwch?
- Beth am Allforion Tsieina [CE]?
- Gwybodaeth a Chysylltiadau Pellach
Cefndir
Wrth brynu offer newydd (gan gynnwys peirianwaith), mae'n ofynnol g wirio ei fod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth gyflenwi berthnasol. Mae hyn yn golygu gwirio ei fod: wedi'i farcio â’r nod CE; yn cael ei gyflenwi gyda Datganiad Cydymffurfiaeth a chyfarwyddiadau defnyddiwr yn Saesneg; ac yn rhydd o unrhyw nam amlwg (fel gwarchodwyr wedi'u difrodi neu ar goll).
Mewn gwirionedd, gall gwirio'r uchod fod yn ddigon anodd wrth brynu oddi fewn i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ond mae’n fwy anodd wrth brynu offer yn uniongyrchol o'r tu allan i'r rhanbarth economaidd.
Am y rheswm hwn, anogir pob Coleg ac Adran i brynu gan, neu drwy gyfrwng, cyflenwr AEE.
Rydych eisoes yn gwybod y dylai offer a pheirianwaith newydd fod â nod CE pan fyddwch yn eu prynu. Serch hynny, dim ond honiad y gwneuthurwr yw’r nod CE bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â'r gyfraith gyflenwi berthnasol. Mae’n rhaid i ni - fel defnyddwyr - hefyd wirio ei fod yn ddiogel at ein defnydd ni. Er mwyn deall beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol wrth brynu peirianwaith newydd, mae’n gymorth i ddeall cyfrifoldebau’r gwneuthurwr.
Dyletswydd y Cyflenwr
Rhaid i gyflenwr offer o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sicrhau bod yr offer yn cydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd; gan gynnwys:
- gosod marc CE ar yr offer i ddangos ei fod wedi cydymffurfio â'r holl ddeddfau cyflenwi perthnasol;
- cyhoeddi Datganiad Cydymffurfiaeth ar gyfer yr offer/peiriant; a,
- rhoi cyfarwyddiadau yn Saesneg i chi, y prynwr, sy'n egluro sut i osod, defnyddio a chynnal a chadw'r peirianwaith yn ddiogel.
Os ydym am brynu'n uniongyrchol o'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yna dyletswydd Prifysgol Bangor yw sicrhau bod yr uchod yn cael ei gyflawni.
Asesiad Cydymffurfiaeth
Cyn rhoi cynhyrchion newydd ar y farchnad, neu ddod â nhw i wasanaeth am y tro cyntaf, rhaid i'r Person Cyfrifol (y gwneuthurwr neu ei gynrychiolydd awdurdodedig, neu pan fyddwn yn prynu’n uniongyrchol, Prifysgol Bangor) gyflawni'r trefnau asesu cydymffurfiaeth sy'n gymwys i'r cynnyrch. Gall hyn gynnwys cynhyrchion ail-law "newydd" i'r farchnad fel mewnforion o gynnyrch o'r tu allan i Ewrop nad ydynt wedi'u marcio â nod CE, neu gynhyrchion sydd wedi'u hadnewyddu i’r fath raddau eu bod yn cael eu hystyried yn newydd.
Yn dibynnu ar y Gyfarwyddeb a natur y cynnyrch a’r risg, mae asesiad cydymffurfiaeth yn gallu amrywio o hunanasesu'r cynnyrch at archwiliad gan drydydd parti a/neu sicrwydd ansawdd llawn. Rhoddir manylion llawn y trefnau (y cyfeirir atynt hefyd fel modiwlau), fel rheol yn yr Atodiadau, ym mhob Cyfarwyddeb diogelwch cynnyrch Ewropeaidd.
Mae angen i weithgynhyrchwyr a'u cynrychiolwyr awdurdodedig (a Phrifysgol Bangor os mai ni yw'r mewnforiwr uniongyrchol) ganfod beth yw'r trefnau hyn ar gyfer unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer y farchnad Ewropeaidd. Rhaid i'r Person Cyfrifol gadw unrhyw wybodaeth a gynhyrchir ac a gafwyd yn ystod y drefn asesiad cydymffurfiaeth fel rhan o ffeil dechnegol y cynnyrch.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: http://www.hse.gov.uk/work-equipment-machinery/conformity.htm
A yw’r nod CE yn warant o ddiogelwch?
Trwy osod y nod CE, mae'r gwneuthurwr yn honni bod y peirianwaith yn cydymffurfio â'r gyfraith. Ond nid yw’r nod CE ynddo'i hun yn gwarantu diogelwch. Mae dal angen i chi wirio bod yr offer/peirianwaith yn ddiogel i'w ddefnyddio yn eich gweithle, a hynny cyn iddo gael ei ddefnyddio.
Beth am nod CE Allforion Tsiena?
Yn ddiweddar rydym wedi dod i arfer â gweld cynhyrchion sy'n dwyn y nod CE, ac yn aml yn ystyried hyn yn ddangosydd o ddiogelwch. Y rheswm dros dybio hynny yw bod nwyddau ac offer sydd â nod CE yn arddangos eu bod yn cwrdd â safonau perthnasol a llym yr Undeb Ewropeaidd.
Yn anffodus, mae rhai Prifysgolion wedi dod yn ymwybodol o nod tebyg iawn y gallai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr a hyd yn oed rai gwerthwyr ei gamgymryd am nod CE yr Undeb Ewropeaidd, ond un sydd mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth hollol wahanol. Mae’r CE hwn yn sefyll am China Export (ac nid Cydymffurfiaeth Ewropeaidd) a’r cyfan mae’n ei olygu yw bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn Tsieina. Mae'n bwysig bod staff/myfyrwyr y Brifysgol yn deall nad yw'r nod hwn yn golygu bod yr offer yn ddiogel nac ychwaith yn cydymffurfio â safonau gwerthiant yn y farchnad Ewropeaidd.
![]() |
Mae enghreifftiau o'r ddau logo uchod, a gallwch weld bod y llythrennau yn y logo China Export yn sefyll yn agos iawn at ei gilydd ond yn dal i ymddangos yn debyg iawn i'r nod Ewropeaidd swyddogol. Nid yw’r logo China Export wedi'i gofrestru; nid yw'n gadarnhad o lwyddo mewn profion ac mae’n cael ei osod ar gynhyrchion yn fympwyol gan wneuthurwyr.
Dylai’r nod CE dilys fod o leiafswm maint neilltuol - o leiaf 5mm o daldra (oni bai na fo hynny’n bosibl yn achos cynhyrchion bychain iawn) a bod yn gymesur â’r enghraifft beth bynnag ei faint; dylai fod wedi’i gysylltu’n weladwy â'r cynnyrch, yn ddarllenadwy ac yn annileadwy ac wrth ymyl enw'r gwneuthurwr neu ei gynrychiolydd awdurdodedig.
Gofynnwch am y "Datganiad Cydymffurfiaeth" a gwneud gwiriadau sicrwydd ansawdd eich hun i gadarnhau bod y cynnyrch yn cydymffurfio â Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998.
Gwybodaeth Bellach
- Asesiadau Cydymffurfiaeth (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Canllawiau ar Brynu Peirianwaith (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Y Gyfraith Ewropeaidd ar Gyflenwi Cynnyrch Newydd
- Cyflenwi Peirianwaith Newydd (Dyletswyddau'r Mewnforiwr) (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Canllawiau Offer Ail-law (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Peiriannau wedi'u Hadnewyddu a'u Haddasu (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)