Gweithio tu allan i oriau arferol
Yn ddiweddar (Awst 2025) mae'r Brifysgol wedi gweithredu protocolau mynediad adeiladau newydd y tu allan i oriau gwaith ar y safle, a addasodd oriau agor ac amserlenni gwresogi ar gyfer adeiladau, ac i helpu'r Brifysgol i wella diogelwch ffisegol.
Mae'r Brifysgol wedi sefydlu gweithdrefnau rheoli mynediad adeiladau, sy'n nodi oriau agor arferol ac yn gofyn am gyfiawnhad a chymeradwyaeth addas ar gyfer gweithio y tu allan i oriau. Mae trefniadau a meini prawf cymeradwyo craidd bellach yn rhan o'r weithdrefn rheoli mynediad adeiladau honno ac nid polisi iechyd a diogelwch.
Os oes angen mynediad arnoch i unrhyw adeilad y tu allan i'r oriau newydd, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen mynediad y tu allan i oriau gwaith. Unwaith byddwch wedi ei chwblhau bydd y ffurflen, wedi'i reoli gan Wasanaethau Campws, bydd yn cael ei hanfon yn awtomatig at Bennaeth yr Ysgol neu Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Proffesiynol i awdurdodi.
Noder, os ydych chi wedi anghofio unrhyw eiddo personol ar y safle, ni fydd angen i chi lenwi cais mynediad y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch y tîm diogelwch ar 01248 382795.
Er mwyn adlewyrchu'r newidiadau gweithredol hyn, bu'n angenrheidiol diwygio'r Polisi iechyd a diogelwch y Tu Allan i Oriau (fersiwn Cymraeg i ddod), ac mae copi o'r Polisi diweddaraf ar gael yma. Mae'r Polisi'n nodi ystyriaethau a threfniadau iechyd a diogelwch cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer gweithio diogel ar y safle y tu allan i oriau.
Nid yw gweithio yn ystod cyfnodau y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol fel rheol yn peri cynnydd mewn risg i iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, weithiau, gall risgiau posibl cynyddu oherwydd cyfyngiadau ar systemau Prifysgol, Coleg ac Gwasanaeth i ymdopi ag argyfwng, oherwydd diffyg rheolaeth neu oruchwylio gwaith. Gall hyn gynyddu'r siawns y bydd rhywbeth yn mynd o'i le neu faterion yn ymwneud â diogelwch personol os byddwch yn gweithio mewn mannau unig gyda'r nos. Y materion hyn, fel gyda phob risg i iechyd a diogelwch, y mae angen eu hystyried cyn caniatáu i aelod staff a / neu fyfyriwr weithio y tu allan i oriau arferol.