Dyddiau i Ymgeiswyr Cynhelir ein Dyddiau i Ymgeiswyr ar 17 Chwefror, 6 Mawrth a 20 Mawrth. Mae'r digwyddiadau rhithiol hyn yn gyfle gwych i chi ofyn cwestiynau manwl i ddarlithwyr am ein cyrsiau a dod i wybod mwy am fywyd ym Mangor. Os ydych yn cael cynnig lle i astudio yma, byddwn yn eich gwahodd i fynychu Diwrnod i Ymgeiswyr Ar-lein.