Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Israddedig - Mynediad yn 2021

Manylion y Cwrs

  • Dyddiad Dechrau Medi 2021
  • Cod UCAS C680
  • Cymhwyster BSc
  • Hyd 3 blynedd
  • Cynnig Arferol 80 - 128 Pwyntiau Tariff UCAS
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Astudiaeth Gwyddorau Chwaraeon ar berson sy'n gwneud ymarfer corff

Darllen mwy: Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Mae gennym chwricwlwm dan arweiniad ymchwil sy'n ymdrin â phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff, iechyd a meddygaeth, biomecaneg a hyfforddi effeithiol. Mae'r arbenigedd sydd gennym ynghyd ag haddysgu o ansawdd uchel yn eich helpu i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer corff ac antur, sy'n farchnad twf. 

Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Darllen mwy: Seicoleg

Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r modd mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu. Fel gwyddoniaeth ac fel proffesiwn, mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y byd go iawn, trwy wella ansawdd bywyd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf. 

Ffeithiau Allweddol gan UniStats