Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
Mae'r cwrs llawn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn cymryd 3 diwrnod efo thystysgrifau yn barau 3 blynedd yna mae gofyn i chi gwblhau cwrs gloywi dros 2 ddiwrnod. Mae yna hefyd cyrsiau Cymorth Cyntaf Argyfwng sy'n cymryd 1 diwrnod gyda thystysgrifau hefyd yn para 3 blynedd.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Gellir gweld rhestr o'r staff sy'n swyddogion cymorth cyntaf a leoliadau Diffibriliwyr AED yma.
Dyddiadau Cyrsiau
Mae dyddiadau cyrsiau 2022 ar gael yma.
Mae dyddiadau cyrsiau 2023 ar gael yma.
Bwcio Cwrs
SYLWER: Os ydych yn dymuno mynychu ar cwrs yn y 14 diwrnod nesaf, ffoniwch Medi-Tec ar 01248 672693 am lefydd.
I fynychu ar gwrs ar yr amserlen plîs cwblhewch y Ffurflen Gofrestru yma - Ffurflen Gofrestru Cwrs Cymorth Cyntaf.
Byddwch yn derbyn manylion bellach ar gyfer y cwrs trwy ebost gan Medi-Tec o fewn ychydig o ddyddiau.
Unwaith y bydd yr hyfforddiant yn gyflawn a thaliad wedi'i dderbyniwyd, bydd tystysgrif yn cael ei rhoi i chi.
Lleoliad y Cwrs
Mae cyrsiau yn cael eu rhedeg gan Medi-Tec a chynhelir ym Mharc Menai, yn yr adeilad Intec. Sat Nav: LL57 4FG