Dirgrynu Llaw a Braich (HAV)
I gael gwybodaeth am sut i asesu a nodi "risgiau dirgrynu" ac effeithiau hynny ar iechyd, cysylltwch â Michele Lake, yr Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol.
Yn achos unrhyw un sy’n defnyddio offer pŵer llaw, dylent nodi, asesu ac atal neu reoli'r risgiau sy’n deillio o ddirgrynu.
- A ydy’r gweithwyr wedi derbyn gwybodaeth a hyfforddiant i’w hysbysu am y risgiau o ddirgrynu llaw a braich (HAV) ar y safle, a’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i osgoi'r risgiau hynny?
- A ydych wedi nodi ac asesu risgiau i weithwyr sy’n deillio o ddefnydd estynedig o offer dirgrynol fel torwyr concrit, peiriannau llifanu ongl neu ddriliau morthwyl
- A yw amlygiad gweithwyr i ddirgrynu llaw a braich wedi cael ei leihau cymaint â phosibl trwy ddewis dulliau gwaith a pheiriannau addas?
- A ddefnyddir offer dirgrynu isel lle bynnag y bo modd?
- Ydy’r offer dirgrynu yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol?
- A ydych wedi gwneud trefniadau i gadw gwyliadwriaeth ar iechyd pobl sy'n agored i lefelau uchel o ddirgrynu llaw a braich, yn arbennig pan fyddant yn cael ei amlygu iddo am gyfnodau hir?
Dylai gwybodaeth y gwneuthurwr neu'r cyflenwr nodi a oes problem ddirgrynu. Holwch y gwneuthurwr neu'r cyflenwr os nad yw'r wybodaeth yn glir. Dewiswch offer dirgrynu isel pan fo hynny'n bosibl.
Asesu
Dylai'r wybodaeth gan y gwneuthurwr neu'r cyflenwr, y cyfnod amser y defnyddir yr offer drosto a thrafodaethau gyda'r bobl sy'n defnyddio'r offer ddatgelu pa offer sydd fwyaf tebygol o beri risg.
Ymhellach, gwnewch yn siŵr bod y gweithwyr sy'n defnyddio offer dirgrynol yn gwybod am y risgiau a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i'w lleihau.
Atal
A ellir gwneud y gwaith mewn ffordd arall nad yw'n cynnwys defnyddio offer pŵer llaw (er enghraifft, trwy ddefnyddio holltwr hydrolig i dorri trawst concrit yn hytrach na threulio cyfnodau hir yn defnyddio torwyr llaw)?
Rheoli
Gwnewch yn siŵr o gynnal a chadw’r offer fel eu bod wedi’u cydbwyso’n briodol, nad oes ganddynt rannau rhydd neu rannau sydd wedi treulio a bod y llafnau / torwyr yn finiog ac ati. Defnyddiwch yr offeryn pŵer gyda’r atodyn a fydd yn gwneud y gwaith yn gywir yn y cyfnod amser byrraf.
Er mwyn diogelu yn erbyn dirgrynu, dylai gweithwyr gadw eu dwylo'n gynnes i sicrhau llif da o waed i'r bysedd trwy wneud y canlynol:
- Gwisgo menig.
- Bwyta ac yfed bwyd a diodydd poeth.
- Tylino eu bysedd.
- Peidio ag ysmygu (oherwydd gall hyn arwain at gulhau'r pibellau gwaed).
Gwybodaeth bellach
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Dirgrynu Llaw a Braich Yma