Diogelwch Bysus Mini
Mae bysiau mini yn gerbydau modur sydd wedi cael eu hadeiladu neu eu haddasu i gario mwy nag wyth, ond dim mwy na 16, o deithiwr yn ogystal â'r gyrrwr ac maent yn ffordd hanfodol o deithio yn y Brifysgol, i gael staff a myfyrwyr o A i B fel y gallant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ee Teithiau Maes, Gwaith Gwirfoddoli gan Fyfyrwyr ac yn y blaen.
Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn cydnabod bod teithio ar y bws mini yn fwy diogel na theithio mewn car. Fodd bynnag, os bydd bws mini mewn damwain mae yna dal perygl o anaf a marwolaeth nid yn unig i'r rhai yn y bws mini, ond hefyd i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd a cherddwyr. Mae hyn yn golygu bydd rheolaethau llym yn cael eu rhoi i mewn i'w le a'u dilyn i sicrhau bod bysiau mini:
- Yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- Efo Yswiriant
- Wedi cael cynnal a chadw ac yn ddiogel i'w defnyddio
- Wedi gyrru gan rywun sydd:
- efo'r cymhwysedd ac aeddfedrwydd priodol;
- efo'r categorïau Trwydded Yrru gywir;
- ac wedi cael hyfforddiant MIDAS (ar gael drwy'r Undeb Myfyrwyr) neu brawf cymeradwy tebyg gyda hyfforddiant gloywi yn cael ei fynychu yn ôl yr angen;
- Yn cael eu defnyddio'n ddiogel gan y rhai sy'n teithio ynddo
-
Yn arddangos Trwydded Bws Bach
Er mwyn sicrhau diogelwch ei staff a myfyrwyr greodd y Brifysgol Polisi Diogelwch Bysiau Mini a Dulliau Gweithredu. Mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at materion diogelwch sy'n gysylltiedig â gweithredu a gyrru bws mini a dylid cyfeirio ato, yn ychwanegol at unrhyw weithdrefnau adrannol penodol drwy unrhyw un sy'n ymgymryd â gweithgareddau a arweinir gan Brifysgol wrth ddefnyddio:
- Bysiau mini sy'n eiddo i'r Brifysgol
- Bysiau mini llogi neu eu prydlesu
SYLWER:
Mae'n rhaid i bob bws mini a ddefnyddir gan Adrannau cael Trwydded Bysiau Bychain tra maent ar weithgareddau wedi arwain gan y Brifysgol; bydd y drwydded hon yn cael ei harddangos yn y ffenestr flaen y cerbyd.
Argymhellir bod pob Adran nodi'r nifer y bysiau mini efallai y bydd angen i weithredu ar unrhyw un adeg a phrynu'r swm angenrheidiol o drwyddedau. Mae Trwyddedau Bws Bach ar gael gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol drwy Iechyd a Diogelwch. Mae trwyddedau wedi cyfyngu mewn amser (fel y dangosir isod) ond gellir ei drosglwyddo o fws mini i fws mini.
Mae nifer o sefydliadau hefyd yn rhoi gwybodaeth ymarferol ar ddefnyddio a rheolaeth ddiogel o fysiau mini, ee DVLA, RoSPA.
Cysylltau Defnyddiol:
- Polisi Diogelwch Bysiau Mini a Dulliau Gweithredu - Chwefror 2023
- Llawlyfr Gwybodaeth Bws Mini
- Cymdeithas Cludiant Cymunedol (Lliaws o arweiniad proffesiynol ar reoli a defnyddio bysiau mini)
- Gyrru Bws Mini (canllawiau DVLA)
- Diogelwch Bysiau Mini - Cod Ymarfer