Mwy am yr Ysgol

Rhagoriaeth Academaid

Rydym yn ymfalchio mewn rhoi sylw personol i chi gyda’ch astudiaethau ac yn arbenigo mewn dysgu grwpiau bychain. Bydd astudio gyda ni’n arwain at amrywiaeth o gyfleoedd mewn ystod eang o yrfaoedd, a thrwy gydol eich gradd, byddem yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd a’ch paratoi ar gyfer byd gwaith.

Astudio Hanes

Mae Hanes yn bwnc diddorol a heriol sy’n cynnig y cyfle i ddeall a dadansoddi profiad dynol drwy astudio’r gorffennol. Rydym yn arbenigo mewn addysgu sydd wedi’i arwain gan ymchwil, lle bydd eich darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd.

Cewch gyfle i astudio o gynhanes i’r presennol, gan gynnwys Hanes Prydeinig, Cymreig, Ewropeaidd ac Americanaidd ac Archeoleg Prydain ac Iwerddon. Mae ein rhagoriaeth addysgu yn cael ei adlewyrchu’n gyson yn ein canlyniadau Arolwg Genedlaethol Myfyrwyr, lle rydym yn ennill canlyniadau uchel.

Mae’r adran yn llwwyddiannus iawn yn y byd ymchwil gyda staff, sydd ag enw da rhyngwladol yn eu maes penodol, yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau yn gyson. Mae’r diddordebau hyn yn bwydo ac yn siapio ein haddysgu drwy ymchwil.

Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth fel Pwnc Israddedig

Hanes a Hanes Cymru fel Pwnc Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Hanes a Hanes Cymru fel Pwnc Ymchwil Ôl-raddedig 

Astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Mae astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig ichi astudio rhai syniadau pwysicaf a mwyaf heriol sydd wedi siapio diwylliannau Dwyreiniol a Gorllewinol.

Gallwch ddewis astudio amrywiaeth o draddodiadau crefyddol ac athronyddol yn cynnwys athroniaeth ddadansoddol a chyfandirol, syniadau amrywiol am foeseg, ynghyd â chrefyddau’r traddodiadau Dwyreiniol a Gorllewinol. I’r sawl sydd â meddwl ymchwiliol ac sydd am ddatblygu sgiliau newydd, mae’n bosibl mai Bangor yw’r lle perffaith ichi.

Athroniaeth a Chrefydd fel Maes Pwnc Israddedig

Athroniaeth a Chrefydd fel maes pwnc ymchwil ôl-raddedig

Astudio'r Gyfraith

Mae’r graddau a gynigir yma ym Mangor wedi cael eu cynllunio’n ofalus i wneud yn siwr eu bod yn gyfoes ac yn adlewyrchu’r tirwedd gyfreithiol sy’n newid yn gyson. Cewch sgiliau angenrheidiol a gwybodaeth gyfreithiol i’ch paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Mae myfyrwyr o amryw wledydd ar draws y byd yn dewis Bangor am ei harbenigedd addysgiadol ac amgylchedd aml-ddiwylliannol, amrywiol.

Mae ein dosbarthiadau bach yn meithrin amgylchedd dysgu bywiog ac yn annog myfyrwyr i ymwneud yn llawn â’r profiad dysgu, gyda myfyrwyr a darlithwyr yn datblygu perthynas agos a chefnogol.

 Y Gyfraith fel maes pwnc israddedig  

Y Gyfraith fel maes pwnc ôl-raddedig trwy ddysgu

Y Gyfraith fel maes pwnc ymchwil ôl-raddedig

Astudio Gwleidyddiaeth

Mae ein gradd BA Gwleidyddiaeth yn tynnu ynghyd arbenigedd addysgu ac ymchwil ar faterion pwysig ynghylch dylanwad grym, llywodraeth, sofraniaeth, gwrthdaro, trefn, cyfryngu, gorfodaeth, cyfiawnder, cyfrifoldeb, dilysrwydd, diogelwch, a phenderfynu. Bydd y myfyrwyr sy’n dilyn y cynllun hwn yn cael eu cyflwyno i driniaethau rhyngddisgyblaethol i’r trafodaethau am y pryderon theoretaidd, athronyddol, sefydliadol a mater-benodol ynghylch llywodraeth.

GWleidyddiaeth fel Maes Pwnc israddedig

Astudio Gwyddorau Cymdeithas

Rydym yn drylwyr yn ein haddysgu ac mae gennym enw da am ein gofal o’n myfyrwyr. Mae gennym hefyd enw am ymchwil o safon ardderchog yn genedlaethol a rhyngwladol ac mae cynnyrch yr ymchwil yma’n bwydo ein cyrsiau yn gyson. Mae amryw gyhoeddiadau ac erthyglau wedi cael eu cyhoeddi gan staff sydd yn uchel eu parch mewn amryw feysydd.

Mae ein holl gynlluniau gradd yn cynnig hyfforddiant manwl yn egwyddorion sylfaenol gwyddorau cymdeithas, amrediad eang o ddewis o bynciau arbenigol, hyfforddiant mewn ymchwil gymdeithasol a pharatoad ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol.

cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol fel maes pwnc israddedig

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol fel maes pwnc ôl-raddedig trwy ddysgu

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol fel maes pwnc ymchwil ôl-raddedig

Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Phlismona

Mae troseddeg yn mynd law yn llaw â Chyfiawnder Troseddol, ac mi fedrwch astudio’r ddau bwnc yn ein cyrsiau gradd. Byddwch yn archwilio cwestiynau cymhleth ynglŷn â pham bod trosedd yn digwydd, sut y dylid delio â throseddwyr a sut y gellid rhwystro troseddau. Byddwn yn dysgu am faterion allweddol am gyfiawnder troseddol, megis dedfrydu troseddwyr ac enw da a chyfrifoldebau heddluoedd, tra rydych yn datblygu eich dealltwriaeth o gyrff sydd ynghlwm â grymuso cyfraith, llywodraeth, a systemau llysoedd. Byddwch yn astudio gweithiau asiantau cyfiawnder troseddol megis yr heddlu, llysoedd, carchardai, a phrofiannaeth ynghyd â chwmnïau preifat a grwpiau gwirfoddol. 

Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol, yn drwyddedig gan Goleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio fel heddlu ac yn adeiladu ar ben Gradd Sylfaen Plismona lwyddiannus a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai.  

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol fel maes pwnc israddedig

Plismona fel maes pwnc israddedig

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol fel maes pwnc ôl-raddedig trwy ddysgu

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol fel maes pwnc ymchwil ôl-raddedig

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?