Module CXC-1001:
Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer
Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer 2022-23
CXC-1001
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+: Dylai'r gwaith ddangos cynefindra â'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu i'w cymhwyso at gyd-destunau newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth am ddetholiad o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi rhai cyfeiriadau cymharol o ddiddordeb, gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw ddadleuon a damcaniaethau.
-good -B- i B+: Dylai'r gwaith ddangos dealltwriaeth dda o'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu da i'w cymhwyso at sawl cyd-destun newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth helaeth am rychwant o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth dda ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi nifer o gyfeiriadau cymharol diddorol sy'n goleuo'r pwnc, gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi barn bersonol yn hyderus ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
-excellent -A- i A*: Dylai'r gwaith ddangos gwybodaeth drylwyr o'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu datblygedig i'w cymhwyso at nifer helaeth o gyd-destunau newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth fanwl am rychwant eang o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu aeddfed i ddefnyddio cyfeiridau llenyddol cymharol, gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi'n hyderus farn bersonol addysgedig ar nifer helaeth o ddadleuon a damcaniaethau, gan eu cyferbynnu'n ddadlennol â'i gilydd.
Learning Outcomes
- Asesu'r traddodiad beirniadol Cymraeg yng nghyd-destun ehangach damcaniaethu beirniadol y dwthwn hwn.
- Dangos gwybodaeth am nodweddion mydryddol, ieithyddol a delweddol barddoniaeth
- Deall defnyddioldeb gwahanol syniadau beirniadol fel ffyrdd o ddehongli testunau Cymraeg penodol.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad awr a hanner
Weighting
75%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Ymarferiad Beirniadol
Weighting
25%