Module CXC-1033:
O'r Senedd i'r Swyddfa
O'r Senedd i'r Swyddfa 2024-25
CXC-1033
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lowri Angharad Hughes
Overview
Y mae’r broses o sicrhau lle i’r Gymraeg mewn gweithleoedd yn daith sy’n cwmpasu pedair thema:
- Cynllunio: gosod gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg drwy strategaethau a pholisïau a sicrhau bod cyfansoddiad y gweithlu, drwy’r broses recriwtio, yn mynd i ganiatáu i’r Gymraeg gael ei defnyddio.
- Hyfforddiant: arfogi’r gweithlu gyda’r sgiliau iaith Gymraeg angenrheidiol.
- Newid Ymddygiad: wedi i staff ddatblygu sgiliau iaith, creu amgylchedd sydd yn eu hannog i ddefnyddio’r sgiliau hynny.
- Adnoddau: datblygu a hyrwyddo adnoddau er mwyn hwyluso a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
Y themâu hyn (cynllunio, hyfforddiant, newid ymddygiad ac adnoddau) fydd conglfeini’r modiwl a bydd y sesiynau wythnosol yn tywys y myfyrwyr drwy wahanol agweddau arnynt.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (-D - D+)Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%) 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 2. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 3. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol. 4. Gwaith yn dangos gallu elfennol i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol. 5. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.Tasg Asesu 2 : Adroddiad (40%)(Deilliannau dysgu 1-6) 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 2. Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 3. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 4. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol. 5. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 6. Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.Tasg Asesu 3: Ymdriniaeth ddadansoddol (40%)** 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 2. Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 3. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 4. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol. 5. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 6. Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
-good -Da (-B - B+)Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%) 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth foddhaol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 2. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth foddhaol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 3. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 4. Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol yn effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad. 5. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.Tasg Asesu 2: Adroddiad (40%) 6. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth foddhaol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 7. Gwaith yn dangos dealltwriaeth foddhaol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 8. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth foddhaol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 9. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 10. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 11. Gwaith yn adlewyrchu defnydd boddhaol a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3: Ymdriniaeth ddadansoddol (40%) 12. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth foddhaol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 13. Gwaith yn dangos dealltwriaeth foddhaol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 14. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth foddhaol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 15. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith. 16. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 17. Gwaith yn adlewyrchu defnydd boddhaol a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
-excellent -Rhagorol (-A - A)*Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%)* 1. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 2. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 3. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd. 4. Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar meistrolgar ac effeithiol drwyddi draw. 5. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.Tasg Asesu 2: Adroddiad (40%) 6. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 7. Gwaith yn dangos dealltwriaeth gadarn o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 8. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 9. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd. 10. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 11. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.Tasg Asesu 3: Ymdriniaeth ddadansoddo (40%)** 12. Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog. 13. Gwaith yn dangos dealltwriaeth gadarn o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog. 14. Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle. 15. Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd. 16. Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith. 17. Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
Learning Outcomes
- archwilio ac arfarnu sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithleoedd;
- dangos dealltwriaeth o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog;
- dangos dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog;
- defnyddio ieithwedd bwrpasol a graenus ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth gyflawni gwahanol dasgau;
- gwneud defnydd effeithiol o adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi a chyflwyno gwaith.
- ymwneud yn effeithiol â staff mewn gweithleoedd;
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar yn trafod un o'r pedair colofn
Weighting
20%
Due date
18/04/2022
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad i reolwyr
Weighting
40%
Due date
16/05/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd yn trafod un fwy o'r Pedair Colofn
Weighting
40%
Due date
23/05/2022