Module CXC-2107:
Barddoniaeth Fodern
Barddoniaeth Fodern 2022-23
CXC-2107
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
Assessment Strategy
-threshold -Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu i ddadansoddi cerddiDangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu da i ddadansoddi cerddiDangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
-excellent -Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonyntDangos gallu sicr i ddadansoddi cerddiDangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.