Module CXC-2118:
Gweithdy Barddoniaeth
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Prof Gerwyn Wiliams
Overall aims and purpose
Dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig: cyfeirir at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl sy'n dilyn y modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw i’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema i’r modiwl hwn: deunyddiau, e.e. delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau, e.e. yr haicw a phenillion telyn; vers libre neu'r wers rydd; y delyneg a’r filanél; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys, e.e. cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Course content

Assessment Criteria
threshold
D- i D+
- dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;
- dangos gallu i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol;
- dangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;
- dangos gallu i ysgrifennu’n greadigol;
- dangos gallu i ysgrifennu’n feirniadol;
- dangos gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
good
B- i B+
- dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;
- dangos gallu da i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol;
- dangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;
- dangos gallu da i ysgrifennu’n greadigol;
- dangos gallu da i ysgrifennu’n feirniadol;
- dangos gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
excellent
A- i A*
- dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;
- dangos gallu sicr i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol;
- dangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;
- dangos gallu sicr i ysgrifennu’n greadigol;
- dangos gallu sicr i ysgrifennu’n feirniadol;
- dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Learning outcomes
-
Sylweddoli gwerth mynegiant barddol gwreiddiol, bywiog a diddorol;
-
Cymhwyso’r hyn a enghreifftiwyd mewn seminarau, e.e. technegau a themâu, at eu hysgrifennu creadigol eu hunain;
-
Ymateb yn effro i amrywiaeth o gerddi gan ystod o feirdd;
-
Ymelwa ar y cerddi a ystyriwyd a dwyn ysbrydoliaeth greadigol ohonynt;
-
Cyflwyno eu traethawd ac adolygiad mewn iaith raenus a chywir.
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Tutorial | Cyfres o diwtorialau unigol yn ystod y modiwl, e.e. 4 x 15 munud yr un, i drafod syniadau a cherddi drafft ar gyfer y portffolio. |
1 |
Private study | Astudio a chyfansoddi unigol |
179 |
Seminar | Seminarau a gweithdai dosbarth |
20 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Resources
Resource implications for students
Cyfeirir yn gyson at wahanol deunyddiau yn ystod y modiwl a fydd ar gael un ai yn llyfrgell PB neu ar wahanol wefannau.