Module CXC-3016:
Medrau Cyfieithu
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Mr Robat Trefor
Overall aims and purpose
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu:
- Cymhwyso’r wybodaeth ieithyddol a gramadegol a enillwyd at eu gwaith eu hunain yn gyffredinol
- Adnabod a dehongli’r patrymau ieithyddol sy’n ymffurfio wrth drosi testun o’r naill iaith i’r llall
- Defnyddio’r cywair a’r arddull gywir wrth gyfieithu yn ôl gofynion y cyd-destun
- Manteisio’n feirniadol ar y profiad a enillwyd wrth gyfieithu rhychwant eang o destunau mewn gwahanol ffyrdd
- Cynhyrchu gwaith a fydd yn raenus a chywir o ran mynegiant.
Course content
Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
Assessment Criteria
threshold
D- i D+
Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos cynefindra â'r pynciau a'r egwyddorion a drafodir yn y seminarau, ynghyd â gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes arbennig hwn. Dylai myfyrwyr ddangos gwybodaeth am y patrymau cyffredinol sy'n ymffurfio yn y broses o gyfieithu a hefyd am ofynion gwahanol destunau a chyd-destunau o ran arddull a chywair.
good
B- i B+
Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos gwybodaeth dda am yr egwyddorion ieithyddol y tynnir sylw atynt yn y seminarau, yn ogystal â gafael dda ar ramadeg y Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes arbennig hwn. Dylai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth dda o'r modd y gellir addasu a theilwra cyfieithiad ar gyfer cyd-destun arbennig, yn ogystal â gafael dda ar sut y gellir amrywio cystawennau a phatrymau penodol er sicrhau cyfieithiad graenus ac argyhoeddiadol.
excellent
A- i A*
Dylai'r gwaith cyfieithu ddangos gallu datblygedig i drin yr egwyddorion, y patrymau a'r syniadau a drafodir yn y seminarau, ynghyd â gafael gadarn ar deithi'r Gymraeg. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth fanwl am ryngberthynas y Gymraeg a'r Saesneg ac am y modd y gellir defnyddio'r ddealltwriaeth o batrymau'r ddwy iaith er sicrhau cyfieithiad sy'n tystio i gyfoeth adnoddau'r Gymraeg mewn meysydd megis busnes a gwyddoniaeth yn ogystal â'r celfyddydau. Dylai'r gwaith ddangos gallu datblygedig i amrywio cyweiriau ac arddulliau yn ôl y gofyn.
Learning outcomes
-
Cymhwyso'r wybodaeth ieithyddol a gramadegol a enillwyd at eu gwaith eu hunain yn gyffredinol.
-
Adnabod a dehongli'r patrymau ieithyddol sy'n ymffurfio wrth drosi testun o'r naill iaith i'r llall.
-
Defnyddio'r cywair a'r arddull gywir wrth gyfieithu yn ôl gofynion y cyd-destun.
-
Manteisio'n feirniadol ar y profiad a enillwyd wrth gyfieithu rhychwant eang o destunau mewn gwahanol ffyrdd.
-
Cynhyrchu gwaith a fydd yn raenus a chywir o ran mynegiant.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Tasgau wythnosol | 33.30 | ||
Tasgau estynedig | 33.30 | ||
Arholiad | 33.40 |
Teaching and Learning Strategy
Hours |
---|
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Resources
Resource implications for students
Mae'r deunyddiau ar gael i fyfyrwyr y modiwl yn llyfrgell Prifysgol Bangor.
Reading list
Llyfryddiaeth Graidd
Lawrence Venuti (gol.), The Translation Studies Reader (Routledge: Llundain ac Efrog Newydd, 2000).
Dosberthir llyfryddiaeth gyflawn ar ddechrau’r modiwl.
Courses including this module
Compulsory in courses:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 3 (BA/CYMPRO)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 4 (LLB/LIH)
Optional in courses:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- QMV2: BA Cymraeg and Welsh History year 3 (BA/CWH)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)