Module CXD-2124:
O'r Llyfr i'r Llwyfan
O'r Llyfr i'r Llwyfan 2023-24
CXD-2124
2023-24
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Modiwl - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Mewn cyfres o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, bydd y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Trafodir ystod o destunau gan wahanol awduron, o addasiad J.M. Edwards o Rhys Lewis gan Daniel Owen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd addasiad mwy diweddar Siôn Eirian o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis ar gyfer y Theatr Genedlaethol. Bydd cyfle i glywed addaswyr a chynhyrchwyr yn trafod y sialensau a’u hwynebodd. Bydd cyfle hefyd i baratoi addasiad o waith llenyddol byr. Bydd y gwaith llenyddol y addesir gan yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amrywio o ran her.
Assessment Strategy
Trothwy: 1. Dangos gallu i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg. 2. Dangos gallu i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu. 3. Dangos gallu i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir. 4. Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol.
Da: 1. Dangos gallu da i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg. 2. Dangos gallu da i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu. 3. Dangos gallu da i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir. 4. Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu da i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol.
Rhagorol: 1. Dangos gallu sicr i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg. 2. Dangos gallu sicr i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu. 3. Dangos gallu sicr i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir. 4. Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu sicr i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol.
Learning Outcomes
- Adnabod priod nodweddion testunau dramatig a llenyddol.
- Dadansoddi technegau addasu ar gyfer y llwyfan a'u cymhwyso mewn addasiad o waith llenyddol byr.
- Dadansoddi testunau o ddau wahanol gyfrwng a'u cymharu mewn modd deallus.
- Darllen yn annibynnol a phwyso a mesur y deunydd
- Gweithio’n annibynnol ac mewn grwpiau a chyflwyno syniadau’n raenus ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Mewn traethawd, llunio trafodaeth ar addasiad llwyfan o nofel (na astudiwyd yng nghwrs y modiwl) gan ddadansoddi'r modd yr aethpwyd ati i'w haddasu ar gyfer y llwyfan.
- Sylweddoli rôl flaenllaw testunau llenyddol yn hanes mudiad y ddrama Gymraeg.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Addasiad o waith llenyddol byr i’w gyflwyno yn ystod y modiwl. Bydd union hyd yr addasiad yn ddibynnol ar y darn gwreiddiol sydd i’w addasu: 40% Bydd hyd y gwaith llenyddol ynghyd â lefel yr her yn amrywio rhwng tasg yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Weighting
40%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 2800 o eiriau: Dadansoddwch y modd yr aethpwyd ati i addasu Llyfr Glas Nebo ar gyfer y llwyfan. Rhowch ystyriaeth i elfennau megis y cymeriadau, y plot a’r ddeialog.
Weighting
60%