Module DXC-1006:
Gwaith Maes Rhagweiniol: Eryri
Module Facts
Run by School of Natural Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Lynda Yorke
Overall aims and purpose
- Darparu trosolwg bras ar y prosesau ffisegol a dynol sydd wedi arwain at ffurfio Eryri.
- Archwilio’r prosesau sy’n gysylltiedig â ffurfio tirwedd mewn amrywiaeth o raddfeydd gofodol ac amserol.
- Archwilio’r cysylltiad rhwng prosesau byd-eang a lleoedd penodol yn Eryri.
- Datblygu dull amlddisgyblaethol o feddwl am faterion amgylcheddol.
- Galluogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau rhwng theori a gwaith maes.
Course content
Bydd y modiwl hwn yn cyfuno darlithoedd a gwaith maes i roi trosolwg bras ar y prosesau sydd wedi creu nodweddion arbennig tirwedd Eryri. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar bum brif thema, sef daeareg, ecoleg, coedwigaeth, amaeth a chymdeithas. Bydd y darlithoedd yn rhoi trosolwg bras ar y pynciau ac yn cyflwyno pwyntiau damcaniaethol a chysyniadol perthnasol. Y prif feysydd dan sylw fydd: daeareg waelodol; rhewlifiant; ecoleg ôl-rewlifol; ffurfio pridd; hanes gwleidyddol y gymuned; coedwigaeth breifat a choedwigaeth y wladwriaeth; hanes preswyliad dynol a defnydd adnoddau; hanes ffurfio a datblygu’r parc cenedlaethol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hebrwng i safleoedd allweddol sy’n dangos sut y mae’r prosesau hyn yn rhyngweithio ac yn berthnasol i leoedd penodol.
Assessment Criteria
excellent
Mae’r myfyriwr yn dangos gwybodaeth drylwyr am y pwnc a gallu amlwg i ddod ag amrywiol elfennau'r deunydd cwrs ynghyd. Tystiolaeth o ddarllen cefndirol. Nid oes unrhyw feysydd pwysig wedi eu hepgor ac mae’r myfyriwr yn dangos y gallu i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth berthnasol yn feirniadol. Arddull gyflwyno eglur, gryno a ddisgrifiadol yn yr aseiniad a’r tasgau ysgrifenedig.
threshold
Mae gan y myfyriwr ddealltwriaeth sylfaenol o’r egwyddorion a gwybodaeth sylfaenol am y pwnc. Trafodir gwybodaeth berthnasol mewn dyfnder sylfaenol yn yr aseiniad a’r tasgau ysgrifenedig. Nodir mwyafrif y materion allweddol, ond efallai bod rhai bylchau o ran dealltwriaeth. Nid yw’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer wedi ei ddatblygu’n effeithiol.
good
Mae’r myfyriwr yn dangos gwybodaeth gadarn am y pwnc, y gallu i gyfrannu’n adeiladol at y ddadl a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau craff gyda dadleuon da. Yn cyflwyno gwybodaeth yn ddisgrifiadol yn yr aseiniadau a’r tasgau ysgrifenedig.
Learning outcomes
-
Deall y prif brosesau diwydiannol, ecolegol, daearegol a chymdeithasol sydd wedi cynhyrchu nodweddion arbennig tirwedd Eryri.
-
Archwilio’r modd y mae’r gwahanol brosesau o ffurfio tirwedd yn rhyngweithio mewn amrywiaeth o raddfeydd gofodol ac amserol.
-
Deall elfennau gwahanol y safbwyntiau disgyblaethol gwahanol a gymerir.
-
Dangos agwedd feirniadol a dadansoddol tuag at yr amgylchedd naturiol a’r amgylchedd a reolir.
-
Dehongli prif nodweddion y dirwedd yng nghyd-destun theorïau a dulliau perthnasol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Cwm Idwal Exercise | 15.00 | ||
Abey Valley Exercise (week 6) | 15.00 | ||
Gwydyr Forest | 15.00 | ||
Conwy Valley | 15.00 | ||
Degree specific report | 40.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours |
---|
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Safety-Consciousness - Having an awareness of your immediate environment, and confidence in adhering to health and safety regulations
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Conduct fieldwork and/or laboratory work competently with awareness of appropriate risk assessment and ethical considerations
- Recognize and apply appropriate theories and concepts from a range of disciplines.
- Consider issues from a range of interdisciplinary perspectives.
- Apply subject knowledge to the understanding and addressing of problems.
- Awareness of the concepts of spatial and temporal scale in understanding processes and relationships.
- Appreciation of the reciprocal nature of human-environmental relationships.
- Preparation of effective maps, diagrams and visualizations.
- Appreciation of the complexity and diversity of life processes through the study of organisms.
- Undertake field and/or laboratory studies of living systems.
- Understand the provisional nature of information and appreciate competing and alternative explanations.
- Collect and record data generated by a diverse range of methods.
- Demonstrate awareness of the importance of risk assessment and relevant legislation
Resources
Resource implications for students
Students require appropriate clothing for conducting outdoor fieldwork.