Module DXC-2001:
Datblyg Cyn: Byd-eang i Lleol
Datblygu Cynaliadwy: o'r Byd-eang i'r Lleol 2023-24
DXC-2001
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Sian Pierce
Overview
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad cynaladwy sy'n seiliedig ar ffyrdd effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd, defnyddio adnoddau naturiol yn gall, cynnal cymunedau sefydlog a ffyniannus lle bodlonir anghenion pawb. Ystyrir hefyd y syniadau, sy’n newid ac yn peri anghytundeb, am rym, cymuned, hynodrwydd lleoliad a chynnydd cymdeithasol ynghyd â chynllunio amgylcheddol a dulliau rheoli effeithiol. Cyflwynir hefyd enghreifftiau penodol o ardaloedd daearyddol cyferbyniol lle defnyddir arfau i weithio tuag at gynaladwyedd, rheoli cynaladwyedd a monitro cynaladwyedd, e.e. EIA, SEA, dadansoddi cost a budd ac astudiaethau achos penodol. Er mwyn ystyried gweithgarwch economaidd strategol yng nghwmpas cynaladwyedd, edrychir yn fanwl ar y drafodaeth ddamcaniaethol mewn sawl cyd-destun, e.e. trafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy, dyfodol ynni. Ystyrir datblygiad y cysyniad o gynaladwyedd mewn cyflwyniad cyffredinol i boblogaeth sy’n newid a’r ddadl ynglŷn â datblygu adnoddau technolegol. Ystyrir y theorïau economaidd sy’n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol mewn dull doeth ynghyd â’r syniad o lywodraethu datblygiad cynaladwy sy’n cynnwys cyrff rhyngwladol, e.e. TNC a grwpiau ymgyrchu. Caiff myfyrwyr gyfle i weithio gyda staff mewn timau project bach (4 ar y mwyaf) ar senarios astudiaethau achos penodol yn cynnwys technegau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ymarferwyr cynaladwyedd lleol. Bydd rhai o’r projectau hyn yn cynnwys cyrff cymunedol lleol.
Learning Outcomes
- Datblygu’r sgiliau tîm project a’r ddealltwriaeth sydd ynghlwm ag ymarfer datblygiad cynaladwy.
- Deall a chofio tystiolaeth a welwyd mewn darlithoedd ac yn y maes o gyd-destunau penodol rheoli adnoddau’n gynaliadwy e.e. ynni, trafnidiaeth, twristiaeth.
- Deall gwreiddiau theori datblygiad cynaladwy
- Deall sut y gellir defnyddio gwybodaeth wyddonol a dealltwriaeth sosio-economaidd i reoli gwahanol fathau o adnoddau byd-eang mewn dull doeth.
- Disgrifio amrywiaeth o ddulliau ac arfau a ddefnyddir i reoli a monitro cynaladwyedd.
- Gwerthfawrogi’r cyd-destunau daearyddol gwahanol ble gellir defnyddio’r syniad o ddatblygiad cynaladwy.
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
30%