Module DXC-2018:
Geomorffoleg Afonol
Module Facts
Run by School of Natural Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Paula Roberts
Overall aims and purpose
Basnau afon yw’r system naturiol sylfaenol yn y mwyafrif o brosesau hydrolegol a’r uned ofodol bennaf o fewn hydroleg a geomorffoleg. Amcan y modiwl yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o reolyddion, dynameg a chysylltiadau rhwng y llifoedd a ffurfiau a welir yn y system ffisegol allweddol hon drwy fframwaith damcaniaethol. Rhennir y modiwl yn ddwy ran naturiol: y llethrau a’r sianeli. Yn y rhan gyntaf mae’r modiwl yn archwilio patrymau a rheolyddion llif dŵr a gwaddodion drwy ac ar draws llethrau, gan ganolbwyntio yn bennaf ar greu llif trostir a symud gwaddodion. Mae ail ran y modiwl yn archwilio’r prosesau sydd yn rheoli ffurf ac esblygiad afonydd, sydd yn cael ei yrru gan drosglwyddiad gwaddodion o’r llethrau a ffiniau’r sianel ac effaith y prosesau yma ar reolaeth afonol. Fe drafodir y themâu canlynol yn ystod darlithoedd y modiwl. - Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon. - Mas-symudiad ac erydiad ar lethrau - Prosesau blaen-nentydd a datblygiad rhwydweithiau. - Prosesau'r sianel: dŵr a gwaddod. - Geometreg hydrolig. - Erydiad glan a gwely. - Patrymau sianel a chyfraddau newid. - Rheoli Sianeli
Course content
Amcan y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i’r prosesau allweddol sydd yn rheoli symudiad dŵr a gwaddodion drwy’r basn afon dros amrywiaeth o raddfeydd amserol a gofodol. Gellir deal y symudiadau yma fel rheolydd ac fel sgil-effaith o forffoleg y basn, ac fe archwilir y rhyngweithiad sensitif yma yng nghyd-destun y basn cyfan a pharthau annatod y llethr a’r sianel.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy. Yn dangos gwybodaeth dderbyniol o brif nodweddion geomorffoleg afonol. Defnyddio dulliau sylfaenol i ddadansoddi gwybodaeth ac yn defnyddio enghreifftiau addas i egluro newidiadau yn y sianeli. Yn egluro yn glir, yn defnyddio strwythurau addas. Fe ddisgwylir ychydig o ddadansoddi critigol ar lefel sylfaenol.
good
Da. Yn dangos dealltwriaeth drwyadl o brif nodweddion geomorffoleg afonol gyda thystiolaeth o ddarllen ac ymwybyddiaeth o ddatblygiadau newydd. Yn egluro materion traws disgyblaethol yn dda gyda gwerthfawrogiad o’r elfennau o amser a graddfa mewn sustemau afonol. Gwerthusiad critigol trwyadl a defnydd o astudiaethau achos, safon uchel o gyflwyno.
excellent
Rhagorol. Dealltwriaeth glir, eang a thrwyadl o geomorffoleg afonol. Tystiolaeth o ddarllen cefndirol ac ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol ar lefelau o amser a graddfa. Ymwybodol o effeithiau traws disgyblaethol o nodweddion afonol. Gwerthusiad critigol gyda dadleuon perthnasol. Cyflwyniad ardderchog ac ysgrifennu o safon.
Learning outcomes
-
Disgrifio prosesau a ffurfiau allweddol y system afonol.
-
Gwerthuso’r dulliau sydd ar gael i fonitro prosesau’r basn.
-
Esbonio strwythur rhwydweithiau traenio, morffoleg a deinameg sianeli.
-
Gwerthuso strategaethau a phroblemau rheolaeth afonol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Essay | 50.00 | ||
Online test | 50.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd ar y cyd efo myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 1 x 2awr yr wythnos |
20 | |
Seminar | Seminarau efo trefnydd y modiwl ym Mangor 10 x 1 awr dros y semester 1af |
10 |
Private study | Asudio personol, cadw i fynu efo darlithoedd dysgu o bell a chwblhau aseiniadau |
170 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
Resources
Resource implications for students
Dim
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/dxc-2018.htmlCourses including this module
Compulsory in courses:
- F900: BSC Environmental Science year 2 (BSC/ES)
- F901: BSc Environmental Science (4 yr with placement) year 2 (BSC/ES4)
- F90F: BSc Environmental Science year 2 (BSC/ESF)
- 8U71: BSc Environmental Science (with International Experience) year 2 (BSC/ESIE)
- F850: Master of Environmental Science year 2 (M/ENVSCI)
- F851: MEnvSci Environmental Science with International Experience year 2 (MENVSC/ESIE)
Optional in courses:
- L700: BA Geography year 2 (BA/GEOG)
- L702: BA Geography (4 yr with placement) year 2 (BA/GEOG4)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 2 (BA/GEOGIE)
- D447: BSC Environmental Conservation year 2 (BSC/ECON)
- D448: BSC Environmental Conservation year 2 (BSC/ECON4)
- D451: BSc Environmental Conservation (International Experience) year 2 (BSC/ENIE)
- D502: BSc Forestry with International Experience year 2 (BSC/FIE)
- D500: BSC Forestry year 2 (BSC/FOR)
- D50P: BSc Forestry with Placement Year year 2 (BSC/FP)
- F800: BSC Geography year 2 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 2 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 2 (BSC/GEOGIE)
- D512: MFor Forestry year 2 (MFOR/FOR)
- D514: MFor Forestry with International Experience year 2 (MFOR/FORIE)
- D513: MFor Forestry (with placement year) year 2 (MFOR/FORP)
- F801: MGeog Geography year 2 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 2 (MGEOG/GIE)