Module DXC-3003:
Gwaith Maes: Barcelona
Gwaith Maes: Barcelona 2023-24
DXC-3003
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Eifiona Lane
Overview
Mae’r modiwl 20 credyd hwn ar Lefel Tri, a gynhelir dros un semester, yn cynnwys yr elfennau canlynol ac fe'i hasesir yn gyfan gwbl trwy waith cwrs: - • Ymweliad maes preswyl saith diwrnod i ddinas Barcelona a Rhanbarth Ymreolaethol Catalonia, Sbaen. Darperir amserlen fanwl i'r grŵp sy'n cynnwys cyfnod o ymchwil unigol.
• Cyfres o seminarau paratoi awr yr un dan arweiniad staff, Wythnosau 1 – 5. Mae’r rhain yn orfodol a chedwir cofrestr.
• Tasg ymchwiliadol a dadansoddol dan gyfarwyddyd i ddarparu at gyflwyniad PowerPoint ffurfiol 10 munud yn wythnos 5. Gwneir hyn mewn grwpiau o 2 – 3 myfyriwr gyda phob un yn ymdrin â thema benodedig a fydd yn berthnasol fel cefndir ymchwil i’r daith.
• Yn ystod yr ymweliad, cynhelir ymweliadau grŵp gyda theithiau tywys i safleoedd ac adnoddau sy’n berthnasol i bynciau gradd y myfyrwyr. Bydd y rhain yn cydymffurfio’n llawn â chanllawiau Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. Bydd myfyrwyr yn cytuno i ddilyn cod ymarfer ac ymddygiad proffesiynol y modiwl yn ystod yr ymweliad.
• Byddwch angen cynllunio ymlaen llaw beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio amser rhydd yn ystod yr ymweliad er mwyn casglu deunydd/arsylwadau maes a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich adroddiad ymchwil. Ar ôl i chi ddychwelyd bydd angen i chi gyflwyno adroddiad gwerthusol a dadansoddol, a ysgrifennwyd gennych chi eich hun, erbyn diwedd y semester (dyddiad i’w gyhoeddi’n ddiweddarach).
Learning Outcomes
- Cynnal proses anffurfiol ac elfennol o adolygu cyfoedion.
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau a materion daearyddol a welir yn Barcelona a Catalonia;
- Datblygu sgiliau a medrusrwydd yn y maes o ran coladu, dadansoddi, dehongli, gwerthuso ac adrodd ar ymchwil unigol mewn lleoliad daearyddol newydd.
- Gallu cynllunio a llunio cyflwyniad PowerPoint clir a graenus mewn grŵp bychan.
- Medrusrwydd wrth gyflwyno darganfyddiadau a chasgliadau ymchwil seiliedig ar waith maes a gwefannau academaidd mewn adroddiad ymchwil ac ar lafar.
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
40%