Module DXC-3003:
Gwaith Maes: Barcelona
Gwaith Maes: Barcelona 2023-24
DXC-3003
2023-24
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Eifiona Thomas Lane
Overview
Mae’r modiwl 20 credyd hwn ar Lefel Chwech(blwyddyn 3), a gynhelir dros un semester, yn cynnwys yr elfennau canlynol ac fe'i hasesir yn gyfan gwbl 100% trwy waith cwrs: -
• Ymweliad maes preswyl saith diwrnod i ddinas Barcelona a Rhanbarth Ymreolaethol Catalonia, Sbaen. Darperir amserlen fanwl i'r grŵp sy'n cynnwys cyfnod o ymchwil unigol.
• Cyfres o seminarau paratoi awr yr un dan arweiniad staff, Wythnosau 1 – 5. Mae’r rhain yn orfodol .
• Tasg ymchwiliadol a dadansoddol dan gyfarwyddyd i ddarparu at gyflwyniad PowerPoint ffurfiol 10 munud yn wythnos 5. Gwneir hyn yn unigol gyda phob un yn ymdrin â thema benodedig a fydd yn berthnasol fel cefndir ymchwil i’r daith.
• Byddwch angen cynllunio ymlaen llaw beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio amser rhydd yn ystod yr ymweliad er mwyn casglu deunydd/arsylwadau maes a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich adroddiad ymchwil. Ar ôl i chi ddychwelyd bydd angen i chi gyflwyno adroddiad gwerthusol a dadansoddol, a ysgrifennwyd gennych chi eich hun, erbyn diwedd y semester .
Mae’r modiwl 20 credyd hwn ar Lefel 6 ( Blwyddyn Tri,) a gynhelir dros un semester, yn cynnwys yr elfennau canlynol ac fe'i hasesir yn gyfan gwbl trwy waith cwrs: - • Ymweliad maes preswyl saith diwrnod i ddinas Barcelona a Rhanbarth Ymreolaethol Catalonia, Sbaen a thalaith Girona. Darperir amserlen fanwl i'r grŵp sy'n cynnwys cyfnod o ymchwil unigol.
• Cyfres o seminarau paratoi awr yr un dan arweiniad staff, Wythnosau 1 – 5. Mae’r rhain yn orfodol .
• Tasg ymchwiliadol a dadansoddol dan gyfarwyddyd i ddarparu at gyflwyniad PowerPoint ffurfiol 10 munud yn wythnos 5. Gwneir hyn yn unigol gyda phob un yn ymdrin â thema benodedig a fydd yn berthnasol fel cefndir ymchwil i’r daith.
• Byddwch angen cynllunio ymlaen llaw beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio amser rhydd yn ystod yr ymweliad er mwyn casglu deunydd/arsylwadau maes a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich adroddiad ymchwil. Ar ôl i chi ddychwelyd bydd angen i chi gyflwyno adroddiad gwerthusol a dadansoddol, a ysgrifennwyd gennych chi eich hun, erbyn diwedd y semester (dyddiad i’w gyhoeddi’n ddiweddarach).
Assessment Strategy
Trothwy-1] Dim o bwys wedi ei hepgor neu’n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth / sgiliau 2] Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau theoretig, cysyniadol ac ymarferol3] Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i’w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.Mae hyn yn rhoi safon foddhaol PASIO 40 – 49%
Da -1] Defnyddir yn gywir lawer neu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd.2] Gafael dda/ddigonol ar elfennau theoretig/cysyniadol/ymarferol3] Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth yn dda/foddhaol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir4] Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.Mae hyn yn rhoi safon Foddhaol i Uchel PASIO 50 – 69
Gwych 1] Perfformiad eithriadol, arbennig o ddawnus2] Defnyddir y wybodaeth berthnasol yn gywir.3] Gafael ragorol ar elfennau theoretig/cysyniadol/gwybodaeth wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir 4] Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.Mae hyn yn rhoi safon Ragorol DOSBARTH CYNTAF 70%+ +
Learning Outcomes
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau a materion daearyddol a welir yn Barcelona, Girona a Catalonia gwledig ;
- Datblygu sgiliau a medrusrwydd yn y maes o ran coladu, dadansoddi, dehongli, gwerthuso ac adrodd ar ymchwil unigol mewn lleoliad daearyddol newydd.
- Gallu cynllunio a llunio cyflwyniad PowerPoint clir a graenus i'w ddilyn gan adolygiad gan gyfoedion (heb ei gynnwys yn yr Asesiad)
- Medrusrwydd wrth gyflwyno darganfyddiadau a chasgliadau ymchwil seiliedig ar waith maes a gwefannau academaidd mewn adroddiad ymchwil ac ar lafar.
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Asesiad llafar o gyflwyniad powerpoint
Weighting
10%
Due date
17/10/2023
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad ymchwil
Weighting
50%
Due date
13/12/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Tasgau byr ar gynnwys ymweliad maes.
Weighting
40%
Due date
30/11/2022