Module DXC-3506:
Materion Cyfoes yr Amgylchedd
Materion Cyfoes yr Amgylchedd 2023-24
DXC-3506
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Prysor Williams
Overview
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i wneud project ymchwil ar gyfrifiadur gan edrych yn fanwl ar fater amgylcheddol cyfredol, neu fater yn gysylltiedig â'r amgylchedd. Cynhelir y modiwl yn Semester 1 a daw i ben gyda chynhyrchu adroddiad project ysgrifenedig a seminar. Dewisir y testunau gan y myfyriwr i adlewyrchu ei d(d)iddordeb a gallant amrywio o faterion lleol i rai byd-eang. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i amrediad o faterion cyfoes 'poblogaidd'. Dylid ymgynghori â ffynonellau megis papurau newydd o wahanol ansawdd, y cyfryngau darlledu, y rhyngrwyd, cyfnodolion gwyddonol `poblogaidd' a'r cyfnodolion gwyddonol a gaiff eu cloriannu'n fwy trwyadl gan arbenigwyr yn y maes. Dylai'r testun fod yn wahanol i'r un a ddewisir ar gyfer project ymchwil arbrofol y myfyriwr. Dylid dewis testunau mewn ymgynghoriad â threfnydd y modiwl. Mae'r modiwl yn cynnwys ymchwil a wneir gan fyfyrwyr i destun penodol. Ar wahân i ddarlith ragarweiniol nid oes unrhyw ddarlithoedd neu sesiynau ymarferol ffurfiol yn gysylltiedig â'r modiwl hwn. Ar ddiwedd Semester 1 bydd pob myfyriwr yn cyflwyno eu testun ar ffurf seminar 20 munud a byddant yn cyflwyno adroddiad project ar y testun o'u dewis. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ei gilydd a disgwylir iddynt gyfrannu at y drafodaeth ar ôl pob sgwrs. Asesir y seminar a'r adroddiad project.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu astudio a dadansoddi amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol ac egluro'r agweddau penodol ar y testun o¿u dewis.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu deall sut mae'r mater hwn yn cael ei ystyried gan y cyfryngau.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu deall y materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â¿r mater a gallu ysgogi trafodaeth wyddonol.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu defnyddio technoleg meddalwedd cyfrifiadurol safonol (cronfeydd data ar y We, MS-Powerpoint, MS-Word) ar gyfer chwilio cronfeydd data a chynhyrchu adroddiadau a chyflwyniadau.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwerthuso¿n feirniadol y dadleuon sy'n gysylltiedig â mater gwyddonol penodol.
- Bydd myfyrwyr yn cael profiad o fod mewn cyfweliad.
Assessment type
Summative
Weighting
65%
Assessment type
Summative
Weighting
35%