Module HAC-2016:
Y Gaethfasnach Drawsatlantig
Y Gaethfasnach Drawsatlantig 2022-23
HAC-2016
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn archwilio amrywiaeth o destunau mewn cryn fanylder, megis: diffinio caethwasiaeth a’r byd trawsatlantig, natur y Fordaith Ganol, bywyd yn y ‘Byd Newydd’, naratifau a chaneuon y caethion, y berthynas rhwng y gaethfasnach a chrefydd (yn arbennig felly Gristnogaeth), y mudiad diddymol a dirywiad graddol y gaethfasnach, ynghyd â natur ac effaith iawndaliadau, yn ogystal ag ystyried sefyllfa’r cyn-gaethion yn ail hanner y 19eg ganrif.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol:•Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau.•Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur.•Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau.•Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd. -good -B- i B+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos:•Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.•Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.•Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn.•Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol. -excellent -A- i A+ Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol:•Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg.•Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol.•Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau. -another level-C- i C+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos:•Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.•Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.•Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn.•Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Learning Outcomes
- • Arddangos dadansoddiad manwl o bersbectifau cymharol, a allai olygu’r gallu i gymharu hanes gwahanol wledydd, cymdeithasau neu ddiwylliannau cysylltiedig â’r gaethfasnach drawsatlantig neu a effeithiwyd ganddi.
- • Arddangos gwerthfawrogiad beirniadol o gymhlethdod ail-greu’r gorffennol, a natur broblemus ac amrywiol tystiolaeth hanesyddol am y gaethfasnach drawsatlantig.
- • Disgrifio, trafod ac arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, testunol, athroniaethol., hanesyddol, diwinyddol, moesegol a sefydliadol ar dwf a chwymp y gaethfasnach drawsatlantig.
- • Gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol amrediad o ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau diwinyddol, llenyddol, cofnodion economaidd a dogfennau cyfreithiol, gan gynnwys deunyddiau hanes, crefydd a phan fo’n briodol, bynciau perthnasol megis y dyniaethau neu wyddorau cymdeithas.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Ffurfiannol
Description
Traddodi cyflwyniad llafar unigol sydd i bara 10 munud yn archwilio agwedd ar y modiwl na thrafodwyd gan y myfyrwyr yn eu traethawd. Bydd cyfarfod gyda chydlynudd y modiwl i ddilysu'r pwnc y dewisir ei drafod.
Weighting
30%
Due date
15/05/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Ffurfiannol
Description
Disgwylir i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 yn ymateb i un cwestiwn o blith dewis o 5.
Weighting
70%
Due date
24/04/2023