Module HAC-3006:
Traethawd Hir
Traethawd Hir BA Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas 2024-25
HAC-3006
2024-25
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Modiwl - Semester 1 a 2
40 credits
Module Organiser:
Lowri Ann Rees
Overview
Bydd y traethawd hir yn gosod y pwnc ymchwil a ddewiswyd yn ei gyd-destun ehangach e.e. llenyddiaeth academaidd, hanesyddiaeth, methodoleg, fframwaith theoretig, fframwaith daearyddol/archaeolegol. Bydd yn gosod cwestiynau ymchwil a bydd strwythur yn cael ei lunio. Bydd yn disgrifio ac yn dadansoddi'r pwnc a ddewiswyd gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth wreiddiol ac eilaidd berthnasol. Ysgrifennir y project mewn dull trefnus ac academaidd.
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyBydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.
-good -DaBydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
-excellent -Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A*) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc a ddewiswyd yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.
-another level-DaBydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
Learning Outcomes
- Bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i baratoi'r project mewn modd boddhaol i'w gyflwyno.
- Bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i drefnu'r adroddiad a'r traethawd hir ac ysgrifennu darn estynedig yn yr olaf.
- Bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i gasglu deunydd ymchwil sylfaenol ac eilaidd ar gyfer eu project
- Bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i lunio dadl/dadansoddi'r dystiolaeth mewn modd perthnasol
- Bydd y myfyriwr wedi dysgu sut i osod y deunydd hwn mewn cyd-destun ehangach
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad Cynnydd
Weighting
20%
Due date
15/11/2022
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd Hir Terfynol
Weighting
80%
Due date
02/05/2023