Module HTC-2132:
Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cym.
Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry 2022-23
HTC-2132
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
(Wythnos 1) Cyflwyniad Darlith 1 - Adrodd hanes y Rhyfel Sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau Seminar 1 - Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel, a’r delweddau sydd yn gyfarwydd i’r Cymry; gwylio rhaglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies (Wythnos 2) 1880-1914 Darlith 2 - Sôn am ryfel; poeni am ryfel; paratoi at ryfel; ysu am ryfel? Darlith 3 - Gorffennaf i Awst 1914 (Wythnos 3) Gwleidyddiaeth: Lloyd George, y Rhyddfrydwyr a’r Sosialwyr Darlith 4 - Cymeriad Lloyd George; Cyfraniad Lloyd George; Chwedl Lloyd George; Atgofion Lloyd George Darlith 5 - Sosialwyr a’r Rhyfel Seminar 2 – Gwleidyddiaeth a’r Rhyfel. Sut wnaeth gwleidyddion bortreadu’r Rhyfel, yn ystod yr ymladd ac yn y degawdau canlynol. (Wythnos 4) Her i’r hen syniadau am wareiddiad Darlith 6 - Gwrthwynebwyr Cydwybodol; Merched Cymru a’r Rhyfel Seminar 3 - Ymladd a gwrthod ymladd: agweddau Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac agweddau cymdeithas tuag at wrthwynebwyr cydwybodol (Wythnos 5) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch Darlith 7 – Buddugoliaeth Lloyd George? Cytundeb Versailles Darlith 8 – Dirwasgiad a Dadrithiad: y 1920au; Gwersi 1914 a’r ymgais i gymodi â Hitler: y 1930au (Wythnos 6) Yn sgil y Dadrithio Darlith 9 – Ymateb llenyddol yn y degawdau ar ôl 1918: chwedl Hedd Wyn; All Quiet on the Western Front Seminar 4 - David Davies a’r mudiad heddwch; Dyhuddiaeth a gwrthwynebiad i’r Ail Ryfel Byd (Wythnos 7) Y Llewod a’r Asynnod Darlith 10: Trafodaeth y 1960au: ‘Lions led by Donkeys’; pwysleisio ffolineb a gwastraff y rhyfel Seminar 5 – Gwylio darnau o gyfres The Great War (BBC, 1964) (Wythnos 8) Conundrum ‘y ddau Ffrynt Gorllewinol’ Darlith 11: Y gwahaniaeth rhwng maes y gad a fodolodd yn Ffrainc a Fflandrys rhwng 1914 a 1918 a’r un dychmygol sy’n gread y cenedlaethau a edrychai nôl mewn syndod a braw Seminar 6 – Cofeb Mametz; gwylio rhaglen Mametz (S4C, 1987) (Wythnos 9) Atgofion hen wŷr Darlith 12 - Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg Darlith 13 – atgofion Griffith Williams, Bob Owen ac Ithel Davies (Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel Darlith 14 - Rhoi’r cyfan mewn i gyd-destun diwylliannol Seminar 7 – Portreadu’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw: Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008) + Sesiwn ar gyfer cyflwyniadau’r myfyrwyr
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyD- - D+Er mwyn ennill credyd dylai’r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth sylfaenol o hanes y Rhyfel Mawr a’i effaith ar Gymru. Fe ddylent allu adnabod y prif ffyrdd yr effeithiwyd ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru gan y Rhyfel.
-good -Da C- - B+Er mwyn ennill graddau uwch yn y modiwl hwn, disgwylir i’r myfyrwyr ymateb yn feirniadol i gwestiynau sy’n cael eu gofyn am ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru. Bydd yna ymwybyddiaeth o’r hanesyddiaeth ar y pwnc. Byddent yn gallu ymateb i gwestiynau traethawd / cyflwyniad mewn modd argyhoeddiadol.
-excellent -Rhagorol A- - A*Er mwyn ennill y graddau uchaf disgwylir i’r myfyrwyr gynnig dehongliadau gwreiddiol o’r ffeithiau hanesyddol, gan gyferbynnu effaith y Rhyfel ar Gymru â’r effaith ar wledydd eraill. Byddent yn gallu dangos eu bod nhw’n ystyried ac yn cyfeirio at waith a dadleuon haneswyr sefydledig, ond eu bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn dadleuaeth. Disgwylir hefyd iddynt drafod iaith, arddull a syniadau’r testunau mewn modd treiddgar ac arloesol.
Learning Outcomes
- Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu pa agweddau o ymateb y Cymry i’r Rhyfel a gafodd yr effeithiau mwyaf dwys
- Dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r newidiadau a fu mewn dehongliad y Cymry o’r Rhyfel, a deall y cysylltiad rhwng datblygiadau cymdeithasol yn y degawdau wedi’r Rhyfel, a’r newidiadau yn sut oedd y Cymry yn deall digwyddiadau 1914-18
- Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: barddoniaeth, hunangofiannau, rhaglenni ffeithiol, delweddau gweledol a thystiolaeth gan lygad-dystion
- Datblygu dealltwriaeth gref o effaith y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru
- Datblygu eu sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac ysgrifenedig
- Gallu casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad ar Gynnwys Papur Newydd (20%): bydd myfyrwyr yn ysgrifennu adroddiad yn dadansoddi cynnwys papur newydd dros gyfnod penodol (1000 o eiriau).
Weighting
20%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd (40%): un traethawd (2,000), gwerth 40% o’r asesiad terfynol ar gyfer y modiwl. Er mwyn gwneud yn dda, bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil personol er mwyn cyfansoddi dadl sydd yn argyhoeddi’r darllenwr ac sydd wedi ei mynegi’n gryf (iaith ysgrifenedig). (deilliannau dysgu 1-6)
Weighting
40%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad diwedd y modiwl (40%, 2 awr): Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn (yn osgoi cwestiwn sydd yn gor-gyffwrdd â phwnc eu traethawd). (deilliannau dysgu 1-6).
Weighting
40%