Module HTC-3123:
Owain Glyndŵr a'i Fudiad
Owain Glyndŵr a'i Fudiad 2023-24
HTC-3123
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
Yn unol â'r amcanion a nodir uchod, bydd y themau a ganlyn yn cael eu trafod:
-
Beth a ddigwyddodd rhwng 1400-1421? – Cwrs y Gwrthryfel.
-
Glyndŵr y dyn – yr arweinydd a’r arwr.
-
Rhesymau dros wrthryfel –
i Cymru’r drefedigaeth wedi 1282;
ii Cymru a thrychinebau’r bedwaredd ganrif ar ddeg;
iii Anawsterau’r Eglwys; iv Uchelwyr a gwerin.
-
Cenedligrwydd a gwleidyddiaeth ar droad y bymthegfed ganrif.
-
Propaganda a phrydyddion – y bardd yn y gymdeithas Gymreig.
-
Gwladwriaeth Gymreig y bymthegfed ganrif – breuddwyd gwrach?
-
Cynlluniau’r mudiad ar gyfer Cymru a’i phobl – Senedd, Addysg ac Eglwys
-
Cwymp y mudiad
-
Cymru wedi’r cwymp - Glyndŵr a chwedloniaeth.
Bydd astudiaeth o gasglliad o ddogfennau sy’n ymwneud â’r mudiad, ac sydd ar gael mewn llyfryn arbennig, yn rhan hanfodol o’r modiwl, gan ddadansoddi hefyd gyd-destun y testunau hyn.
Assessment Strategy
-threshold -Myfyrwyr trothwy (D- a D). Dim ond y darllen lleiaf posibl y bydd myfyrwyr trothwy wedi ei wneud, a’u gwaith yn aml wedi ei seilio ar nodiadau darlith a/neu werslyfrau sylfaenol. Byddant yn dangos peth gwybodaeth o ddarnau o leiaf o’r maes perthnasol yn eu hasesiadau ysgrifenedig, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol-effeithiol o leiaf i lunio dadl sy’n mynd i’r afael â dadleuon hanesyddol, ond byddant wedi methu neu anghofio trafod rhai agweddau hanfodol a phwysig o’r pwnc dan sylw; ac/neu yn defnyddio dim ond peth deunydd perthnasol, ond heb fod yn llwyddo i’w gymhathu i lunio cyfanwaith cydlynol; ac/neu yn defnyddio peth tystiolaeth i gefnogi pwyntiau unigol ond yn fynych heb wneud hynny ac/neu yn dangos anhawster wrth bwyso a mesur tystiolaeth (a thrwy hynny’n dibynnu ar dystiolaeth anaddas neu amherthnasol wrth wneud pwynt). Yn ogystal, neu fel arall, gall cyflwyniad y gwaith hefyd fod yn wael, gyda gwallau gramadegol ac/neu atalnodi, gwallau teipio diofal a chamsillafu, a diffyg cyfeirio effeithiol a chywir.
-good -Bydd myfyrwyr da (B- i B+) yn dangos lefel gadarn yn yr hyn a gyflawnant a dyfnder gwybodaeth ym mhob un o’r meini prawf a nodir ar gyfer yr ystod C- i C+. Byddant ar ben hynny’n dangos eu bod wedi ymwneud yn adeiladol â gwahanol fathau o ysgrifennu hanesyddol a dehongliadau hanesyddiaethol. Bydd syniadau’n cael eu cyflwyno’n effeithiol a bydd gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ystod helaeth o ddarllen/ffynonellau gan ddangos dealltwriaeth glir o’r materion dan sylw ac o ddehongliadau sy’n bodoli, a’r cyfan wedi ei fynegi mewn dadl berthnasol sydd wedi ei strwythuro’n dda ac yn canolbwyntio ar y testun. Bydd myfyrwyr ar ben uchaf yr ystod hwn yn trafod ac yn cynnig beirniadaeth o’r syniadau y byddant yn eu canfod, gan ystyried a dadansoddi’r gwahanol ddehongliadau er mwyn dod i’w casgliadau rhesymol eu hunain. Bydd gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno’n gywir gyda chyfeiriadau a llyfryddiaeth lle bo’n briodol.
-excellent -Bydd myfyrwyr ardderchog (A- ac uwch) yn dangos cryfder mawr yn yr hyn a gyflawnant ym mhob un o’r meini prawf, gan gyfuno hynny gyda dyfnder arbennig o drawiadol a/neu dreiddgarwch o safbwynt dadansoddi. Mewn gwaith ysgrifenedig, byddant yn cefnogi’u dadleuon gyda chyfoeth o fanylion/enghreifftiau perthnasol. Byddant hefyd yn dangos ymwybyddiaeth gref iawn o’r hanesyddiaeth berthnasol gan roi cyfrif o’r rhesymau paham y mae casgliadau y deuir iddynt yn bwysig o fewn dadl hanesyddol benodol. Efallai y byddant yn dangos dull arbennig o dreiddgar wrth drafod gwrth-ddadleuon, gan liwio’u dadl yng ngolau gwrth-enghreifftiau, neu gynhyrchu synthesis diddorol neu wreiddiol o amrywiol safbwyntiau cyferbyniol. Drwodd a thro, bydd y safonau a ddisgwylir o safbwynt cynnwys, dadl a dadansoddi yn gyson well na gwaith yn rhan uchaf ystod 2i. Bydd safon y cyflwyno hefyd yn uchel.
-another level-Bydd myfyrwyr yn yr ystod yma (C- i C+) yn dangos amrediad boddhaol yn yr hyn a gyflawnant neu ddyfnder gwybodaeth am y rhan fwyaf o’r modiwl, ac yn gwneud ymdrechion llwyddiannus, er eu bod o dro i dro yn anghyson, i ddatblygu’r sgiliau cymwys i astudio Hanes ar lefel israddedig. Yn achos eu hasesiadau ysgrifenedig, bydd yr atebion yn ceisio canolbwyntio ar y cwestiwn, er fod y gwaith yn llithro i ddisgrifio naratif ar brydiau, a bydd yn dangos peth tystiolaeth o ddarllen ac ymchwil cadarn. Efallai y bydd y ddadl yn colli cyfeiriad ac heb fod yn ddigon eglur ar waelod y categori hwn. Bydd gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno’n rhesymol dda gyda dim ond ychydig o wallau gramadeg, atalnodi a chyfeirio, ac heb fod i’r graddau eu bod yn cymylu’r ystyr.