Module HTC-3156:
Rhyfel Cartref America
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Nia Jones
Overall aims and purpose
Bydd y modiwl yma yn ffocysu ar Rhyfel Cartref America, un o ddigwyddiadau ffurfiannol yr Unol Daleithiau sydd dal a’i effaith i deimlo heddiw. Mae’r themau a drafodir yn cynnwys caethwasiaeth, cenedlaetholdeb, hanes filwrol, personoliaeth a dylanwad Lincoln, a dylanwad y rhyfel ar y Cymry Cymraeg. Bydd y cwrs felly yn trafod amryw o agweddau ar y Rhyfel Cartref, a hefyd yn annog dehongliad agos a manwl o ffynonellau cynradd. Gan ddechrau yn yr 1850au a cynnig amilnelliad o wlad a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau, bydd y cwrs yn symud ymlaen i drafod gwahaniaethau rhwng y Gogledd a’r De a’r rhesymau am ddechreuad y rhyfel. Ar ol trafod ystod eang o themau a hanes milwrol y rhyfel, daw’r cwrs i ben wrth amlinellu effeithiau’r rhyfel a’r Adluniad (Reconstruction). Bydd profiad pobol Duon, yn cynnwys caethwasiaeth a’u profiad nhw o’r rhyfel, yn thema ganolog trwy gydol y cwrs. Byddwn hefyd yn ystyried yn agos profiad y Cymry o’r rhyfel, yn adeiladu ar waith Jerry Hunter a Gethin Matthews a chymryd mantais o’r dewis eang o ffynonellau cynradd sydd ar gael yn y Gymraeg. Felly ynghyd a chynnig styriaeth ddwfn o un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes America, bydd y cwrs hefyd yn annog ystyriaeth o’r hanes yma o safbwynt Cymraeg a Chymreig.
Course content
Y Gogledd a’r De Gwleidyddiaeth yr 1850au Caethwasiaeth Achosion y Rhyfel a’r Argyfwng Arwahanu Ymladd y Rhyfel Abraham Lincoln Y Cymry a’r Rhyfel Y Rhyfel a’r Gorllewin Rhyddhau’r Caethweision Ennill y Rhyfel Adluniad a’i Fethiant
Assessment Criteria
excellent
Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff. Yn yr arholiad bydd dadlau perthnasol a chlir ynghyd a defnydd trawiadol o dystiolaeth. Yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o gwreiddioldeb neu allu dadansoddol trawiadol ynghyd a sgiliau ymchwil cadarn.
threshold
Trothwy Bydd myfyrwyr trothwy (40au is) yn dangos ystod neu ddyfnder gwybodaeth addas ar gyfer rhannau o'r maes perthnasol o leiaf, ac yn gwneud ymgeisiadau rhannol lwyddiannus i saernio dadl sy'n ymgymryd a dadleuon hanesyddol. Bydd angen i’r arholiad ddangos gwybodaeth addas o’r pwnc. Bydd angen tystiolaeth o beth gallu dadansoddol neu sgiliau ymchwil yn y traethawd.
good
Da Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod. Am y ddau, yn yr arholiad bydd angen am dadl berthnasol a chlir, ac yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o sgiliau ymchwil cadarn.
Learning outcomes
-
dangos dealltwriaeth manwl a threiddgar o ffynhonellau cynradd unigol o dan amodau arholiad.
-
llunio dadleuon hanesyddol a’u hatgyfnerthu gyda thystiolaeth o dan amodau arholiad.
-
cyflwyno dadleuon hanesyddol eglur am agweddau ar hanes Rhyfel Cartref America mewn ffurf traethawd gradd, a chefnogi'r dadleuon gyda ffynhonellau cynradd.
-
barnu dehongliadau hanesyddiaethol o'r pwnc, yn cynnwys barnau hanesyddiaethol presennol.
-
dangos gwybodaeth fanylach o agweddau penodol o hanes America yn y cyfnod.
-
dangos gwybodaeth eang o hanes Rhyfel Cartref America, ei achosion a’i ganlyniadau
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture |
|
10 |
Seminar | 10 | |
Private study | 180 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Courses including this module
Optional in courses:
- V401: MArts Archaeology year 3 (MARTS/ARCH)