Module LCF-1001:
Ffrangeg Uwch 1
Ffrangeg Uwch 1 2024-25
LCF-1001
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Armelle Blin-Rolland
Overview
Mae'r modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar mewn Ffrangeg drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol i ysgogi trafodaethau grŵp. Trwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Ffrengig penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Assessment Strategy
-threshold -40-49%: Gwybodaeth gyfyngedig o ramadeg a geirfa sy'n arwain at allu cyfyngedig i gyfathrebu mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
-good -50-69%: Gwybodaeth dda o ramadeg a geirfa sy'n caniatáu lefel dda o gyfathrebu effeithiol mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
-excellent -70+%: Gwybodaeth ardderchog o ramadeg a geirfa. Gafael gadarn ar yr iaith o ran techneg ac arddull sy'n caniatáu cyfathrebu clir a manwl mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
Learning Outcomes
- Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Ffrengig.
- Cynhyrchu Ffrangeg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.
- Dangos gallu i dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.
- Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig yn amrywio o ran arddull a chywair.
- Defnyddio meysydd geirfa newydd mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Defnyddio strwythurau gramadegol allweddol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Sgwrsio a gwrando ar Ffrangeg, ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad 2 awr Wedi'u strwythuro mewn dwy ran: 1) Cyfieithiad Ffrangeg-Cymraeg/Saesneg (tua 200-250 o eiriau) 2) Cyfieithu set o 10 brawddeg Cymraeg/Saesneg i'r Ffrangeg, a luniwyd i brofi strwythurau gramadegol.
Weighting
50%
Due date
20/01/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Trafodaeth lafar wedi'i hasesu Trafodaeth lafar un-i-un (6-8 munud) ar un o ddetholiad o ffeiliau fideo/sain, a fydd yn cael eu gweld/clywed ymlaen llaw.
Weighting
25%
Due date
16/12/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad ysgrifennu creadigol Darn estynedig o ysgrifennu mewn Ffrangeg (tua 500 gair), sy'n ymateb i destun penodol (e.e. barn, llythyr, darn o ysgrifennu creadigol).
Weighting
25%
Due date
09/12/2022