Module LCF-1004:
Ffrangeg i Ddechreuwyr II
Ffrangeg i Ddechreuwyr II 2024-25
LCF-1004
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Jonathan Lewis
Overview
Mae'r modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi cwblhau Ffrangeg i Ddechreuwyr 1 (LCF-1003).
Nod y modiwl yw datblygu'r sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn cyrraedd lefel sy'n cyfateb i Lefel A.
Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r ramadeg a ddysgwyd yn semester 1 wrth ysgrifennu darnau mwy estynedig, gan ganolbwyntio ar gystrawennau mwy cymhleth ac ehangu geirfa.
Caiff sgiliau gwrando eu datblygu trwy ymarferion sain a fideo. O ran datblygu sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn trafod mwy yn yr iaith darged.
Testunau allweddol:
Action Grammaire! 3ydd argraffiad gan Phil Turk & Geneviève García Vandaele (Hodder Education, 2006).
The French Experience 1, Marie Therese Bougard, Daniele Bourdais (BBC Publications, 2003)
Rhoddir y cyngor canlynol ynghylch prynu geiriadur:
Efallai y bydd geiriadur cryno (nid geiriadur poced) yn ddigon, ond dylech ystyried cael geiriadur cyfieithu 'go iawn' fel Collins-Robert neu Oxford-Hachette, a dysgu ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn rheolaidd.
Assessment Strategy
-threshold -40-49%: I ennill credyd, bydd angen i'r myfyrwyr gael gwybodaeth sylfaenol, ond cynyddol, o eirfa a gramadeg, rhywfaint o allu i gyfieithu a thrin testunau, a gallu sylfaenol ar lafar ac wrth wrando.
-good -50-69%: Bydd perfformiad gwell i'w weld drwy wybodaeth gynyddol o eirfa a gramadeg, gallu da i gyfieithu ac aralleirio testunau Ffrangeg, a gallu da ar lafar ac wrth wrando.
-excellent -70+%: Bydd y myfyrwyr gorau wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o Ffrangeg ysgrifenedig a llafar ar lefel sy'n cyfateb i Lefel A, a byddant yn gallu mynd ymlaen yn hyderus i astudio yn yr ail flwyddyn gyda myfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A.
Learning Outcomes
- Adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod semester 1 (modiwl LCF/LZF-1003).
- Cyfathrebu'n fedrus yn Ffrangeg ynghylch nifer o bynciau mwy cymhleth.
- Cyfuno cystrawennau gramadeg a geirfa er mwyn mynegi barn ynghylch themâu newydd a / neu anghyfarwydd.
- Darllen amrywiaeth o destunau mewn Ffrangeg safonol, e.e. papurau newydd, cylchgronau, nofelau ayb.
- Datblygu sgiliau gwrando a deall drwy wrando ar y radio neu ar gerddoriaeth, gwylio teledu a ffilmiau ayb.
- Gallu ysgrifennu darnau mwy estynedig mewn Ffrangeg cywir a dealladwy.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Translation into and out of French, plus essay on a choice of topics
Weighting
40%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Ymdrin â phrawf gramadeg ar bwyntiau gramadeg hyd at y cam perthnasol yn y modiwl
Weighting
20%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Un darllen a deall ac un cyfieithiad o destun byr i'r Ffrangeg
Weighting
20%
Due date
03/05/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Ymdrin â phrawf gramadeg ar bwyntiau gramadeg hyd at y cam perthnasol yn y modiwl
Weighting
20%
Due date
17/03/2023