Module LCF-2032:
Project 3 Iaith Ffrangeg (pb3)
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Jonathan Ervine
Overall aims and purpose
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu darn estynedig o waith yn ystod eu semester mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith. Mae'r project yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth drylwyr am elfen benodol o fywyd, llenyddiaeth neu ddiwylliant gwlad Ffrangeg ei hiaith a gwella eu Ffrangeg ysgrifenedig a llafar yr un pryd. Dylid dewis pwnc nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur, pwrpas hynny yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol a'u sgiliau ymchwil.
Course content
Ar yr amod y caiff ei gymeradwyo gan aelodau perthnasol staff yr Ysgol Ieithoedd Modern, gall y dewis bwnc neu'r darn i'w gyfieithu ymwneud ag unrhyw agwedd ar fywyd, llenyddiaeth, hanes neu ddiwylliant Ffrangeg gwlad Ffrangeg ei hiaith. Dylid dewis pwnc/darn i'w gyfieithu nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur. Ni ddylid dewis darn i'w gyfieithu sydd eisoes wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg. Bydd y traethawd/cyflwyniad yn yr iaith darged.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy D- - D+: Dealltwriaeth foddhaol o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth gyfyngedig o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg.
good
Da C- - B+: Dealltwriaeth gadarn o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth ddigonol o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael dda ar eirfa a gramadeg.
excellent
Rhagorol A- - A*: Dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth helaeth o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael ragorol ar eirfa a gramadeg.
Learning outcomes
-
Dangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau cyfeirio (yn cynnwys llunio llyfryddiaeth) NEU uwch dechnegau cyfieithu.
-
Dangos y gallu i wneud ymchwil annibynnol NEU gyfieithu darn estynedig yn annibynnol.
-
Dangos y gallu i gasglu gwybodaeth a'i chrynhoi mewn dadl glir a rhesymegol yn yr iaith darged ar lafar neu'n ysgrifenedig NEU wneud penderfyniadau gwybodus wrth gyfieithu, gan ystyried cyd-destun cymdeithasol-wleidyddol a hanesyddol y testun gwreiddiol.
-
Dangos rhywfaint o dystiolaeth o feddwl gwreiddiol dadansoddol.
-
Dangos cymhwysedd wrth ddefnyddio'r iaith Ffrangeg a'i gramadeg.
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | 198 | |
Tutorial | Darlith (2 awr, cyflwyno'r project) |
2 |
Pre- and Co-requisite Modules
Co-requisites:
Courses including this module
Compulsory in courses:
- R916: BA French, German & Italian year 2 (BA/FGI4#)
- R920: French, German and Italian with International Experience year 2 (BA/FGI4IE)
- R912: BA French, German & Spanish year 2 (BA/FGS4#)
- R91F: BA French, German & Spanish [with Foundation Year] year 2 (BA/FGS4#F)
- R917: BA French, Italian & Spanish year 2 (BA/FIS4#)