Module LCS-3040:
Iaith Sbaeneg 2 (3 Iaith)
Iaith Sbaeneg 2 (3 Iaith) 2023-24
LCS-3040
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Nod y modiwl 40 credyd hwn sy'n para trwy'r flwyddyn yw hyrwyddo defnydd priodol o arddull a chywair ym mhob darn o waith llafar ac ysgrifenedig a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymdrin ag amrywiadau cywair a mynegiant idiomatig mewn modd hyderus a chywir. Trwy ddarllen testunau amrywiol, a gweld strwythurau gramadegol cymhleth a deunyddiau clyweledol, mae myfyrwyr yn meithrin sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a llafar sy'n cyfateb i safon myfyrwyr iaith yn eu blwyddyn olaf.
Nid oes testun gosod ar gyfer y modiwl iaith hwn, ond caiff myfyrwyr eu hannog yn gryf i brynu copi o'r llyfrau canlynol i'w hastudio'n annibynnol:
Butt, John and Carmen Benjamin (2011) A New Reference Grammar of Modern Spanish, London and Oxford: Arnold. Pountain, Christopher, Teresa de Carlos and Angela Howkins (2011) Practicing Spanish Grammar: A Workbook, London a Rhydychen: Arnold.
Learning Outcomes
- 1. Dangos yn y traethodau a'r gwaith cyfieithu afael soffistigedig ar Sbaeneg a Chymraeg/Saesneg sy'n effro i ystod rethregol y ddwy iaith.
- 2. Deall a phrosesu testunau cymhleth a deunyddiau clyweledol sy'n amrywio o ran eu harddull, eu tôn a'u cywair a rhoi sylwadau cryno a rhugl ar y testunau hynny.
- 3. Dangos gallu yn y gwaith llafar i gyflwyno mewn Sbaeneg rhugl ddadleuon y gallai siaradwyr Sbaeneg iaith gyntaf eu dilyn yn gymharol rwydd.
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
50%