Module PCC-1004:
Datblygu sgiliau ymchwil
Datblygu sgiliau ymchwil (20 credyd) 2024-25
PCC-1004
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Leah Hadden-Purnell
Overview
Mi fydd y modiwl yn adeiladu ar y cynnwys a gyflwynwyd yn PCC1002, ac yn cyflwyno dulliau ymchwil a phrofion ystadegol mwy cymhleth (gan gynnwys profion paramedrig ac amharamedrig).
Bob wythnos, mi fydd myfyrwyr yn mynychu darlith (1 awr o hyd) a gweithdy (2 awr o hyd). Yn y ddarlith, byddwch yn dysgu ffeithiau, theorïau, a rhesymeg dulliau ymchwil. Mi fydd y gweithdai wythnosol yn rhoi cyfle i chi drafod y wybodaeth yn fwy manwl, ac i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Bydd rhai o'r gweithgareddau yn cynnwys ystyried materion moesegol, dyfeisio astudiaethau ymchwil, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio offer electronig, llaw gyfrifiadau, a dysgu sut i gyfathrebu canlyniadau'r ymchwil mewn adroddiadau ysgrifenedig.
Dylai pob myfyriwr gwblhau 200 awr o waith ar gyfer y modiwl hwn ar draws y semester (gan gynnwys dosbarthiadau rheolaidd, ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau).
Assessment Strategy
Gwych (A- i A**) Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.Dealltwriaeth gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd gwych o astudiaethau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Cyflwyniad gwych o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos gwir ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad gwych o gymhwysiad theoretig ac ymarferol meysydd gwahanol.
Da (B- i B+) Cyflwyniad da o wybodaeth gref am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.Dealltwriaeth weddol gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd da o bapurau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Cyflwyniad da o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad da o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y meysydd gwahanol.
Boddhaol (C- i C+) Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu gweddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol.Dealltwriaeth foddhaol o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Dengys ychydig iawn o ddarllen cefndirol ychwanegol.Cyflwyniad boddhaol o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad boddhaol o gymhwysiad theoretig ac ymarferol meysydd gwahanol.
Trothwy/gwael (D- i D+) Cyflwynwyd gwybodaeth am brif egwyddorion dulliau ymchwil a theorïau yn unig. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.Ychydig o ddealltwriaeth am y manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Defnydd prin o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd, a thystiolaeth gyfyngedig o ddarllen ychwanegol.Cyflwynwyd cwestiynau ymchwil weddol ddiddorol a pherthnasol, ond ni ddengys dealltwriaeth gadarn o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol, a ni chafwyd gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y meysydd gwahanol.
Learning Outcomes
- Cynnal adolygiad o lenyddiaeth perthnasol, ac ysgrifennu adroddiad ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA.
- Dangos dealltwriaeth o bwysirgrwydd effaith ymchwil (research impact).
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau a dulliau ymchwil gwahanol, a deall sut y cânt eu defnyddio o fewn meysydd gwahanol.
- Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm drwy gyfrannu at astudiaethau ymchwil fel cyfranogwr.
- Dewis a defnyddio profion paramedrig a/neu amharamedrig i ddadansoddi data.
- Gallu defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS y hyderus: gallu mewnbynnu data yn gywir, rhedeg y dadansoddiad ystadegol priodol, a dehongli'r allbwn.
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
SONA 1 Yn ystod y tymor, dylech gymryd rhan mewn arbrofion drwy’r system SONA. Mae arbrofion gwahanol yn cynnig nifer gwahanol o gredydau (e.e., hanner awr = 1 credyd; 2 awr = 4 credyd), a dylech gwblhau 18 credyd erbyn diwedd y tymor. Mae hyn yn gyfatebol i tua awr yr wythnos. Mae SONA yn cael ei farcio ar sail eithriad - os ydych yn ei gwblhau, mi fydd gradd y modiwl yn aros yr un fath. Os nad ydych yn ei gwblhau, mi fydd gradd y modiwl yn cael ei ostwng.
Weighting
2.5%
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
SONA 2 Yn ystod y tymor, dylech gymryd rhan mewn arbrofion drwy’r system SONA. Mae arbrofion gwahanol yn cynnig nifer gwahanol o gredydau (e.e., hanner awr = 1 credyd; 2 awr = 4 credyd), a dylech gwblhau 18 credyd erbyn diwedd y tymor. Mae hyn yn gyfatebol i tua awr yr wythnos. Mae SONA yn cael ei farcio ar sail eithriad - os ydych yn ei gwblhau, mi fydd gradd y modiwl yn aros yr un fath. Os nad ydych yn ei gwblhau, mi fydd gradd y modiwl yn cael ei ostwng.
Weighting
2.5%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Ystyried effaith ymchwil Mae traweffaith yn rhan hanfodol o’r byd ymchwil, ac mae’n bwysig i ymchwilwyr ddeall ac ystyried effaith eu hymchwil yn y byd go-iawn. Ar gyfer yr aseiniad yma, dylech ysgrifennu 500 gair am draweffaith ymchwil seicolegol ar astudiaethau achos yn y byd go-iawn.
Weighting
25%
Due date
27/02/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad Ymchwil Pwrpas yr aseiniad yma yw eich dysgu am sut i gyfathrebu canlyniadau prosiect ymchwil mewn ffordd wyddonol. Dylech ysgrifennu 1500 o eiriau, a dylech ddilyn y canllawiau a roddir ar Blackboard. Rhaid i’r adroddiad gynnwys tudalen deitl, crynodeb, rhagarweiniad, dull, canlyniadau, trafodaeth, a rhestr gyfeirnodau.
Weighting
50%
Due date
09/05/2023
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cartref - Profion Blackboard Yn ystod y tymor, byddwch yn cwblhau pum gwaith cartref ar Blackboard. Mi fydd y rhain yn cynnwys cwestiynau aml-ddewis (multiple choice questions) a chwestiynau agored, ac yn profi eich dealltwriaeth o gynnwys y modiwl. Cewch gwblhau’r profion unwaith yn unig, ac mi fydd eich gradd derfynol yn gymedr o’r pum gradd.
Weighting
20%
Due date
05/05/2023