Module PCC-1008:
Sgiliau Academaidd Dwyieithog I
Module Facts
Run by School of Human and Behavioural Sciences
10.000 Credits or 5.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Mrs Emma Hughes-Parry
Overall aims and purpose
Bydd y modiwl hwn yn datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn y gwyddorau dynol. Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau academaidd myfyrwyr a’u hannog i deimlo'n hyderus yn eu gallu i ledaenu syniadau a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun academaidd, gwyddonol. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gellir eu trosglwyddo i fodiwlau eraill, ac i'r gweithle.
Course content
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar lefel Prifysgol; b) Sut i gyfeirnodi yn gywir c) Defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy ch) Sut i osgoi llên-ladrad d) Meddwl yn gritigol dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifennu ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. trawsieithu, termau Cymraeg
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil â fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach i ddatrys tasgau fel tîm ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil.
Assessment Criteria
threshold
D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.
Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.
Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.
Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
C- to C+
C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.
Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.
Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
excellent
A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.
Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.
Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.
Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA/Harvard yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
good
B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.
Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.
Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.
Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
Learning outcomes
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth a defnydd o reolau fformatio APA/Harvard, ac o iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol.
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf ysgrifenedig am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth, trwy gyfrwng y Gymraeg
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu adnabod a disgrifio rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
COURSEWORK | ASEINIAD 1 CYMHARU FFYNONELLAU | Cymharu erthygl yn y cyfryngau gyda ffynhonnell academaidd gwreiddiol. Disgrifio a gwerthuso'r astudiaeth a nodi gwahaniaethau rhwng y ddau erthygl. |
25.00 |
COURSEWORK | Erthygl crynhoi ymchwil | 50.00 | |
COURSEWORK | Crynodeb | 25.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi weithio am 100 awr. Disgwylir i chi wario 66 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
66 |
Lecture | Darlithoedd sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyniadau ymchwil |
11 |
Workshop | Gweithdai grwpiau bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwyddonol ac y gallu i weithio fel rhan o grŵp i gwblhau tasgau |
11 |
Tutorial | Bydd y trefnydd modiwl yn cynnal sesiwn galw heibio wythnosol yn ystod y tymor |
12 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Resources
Resource implications for students
Bydd y werslyfr ar gael yn y llyfrgell. Bydd unrhyw erthyglau ymchwil yn cael eu rhannu ar Blackboard, a ni fydd unrhyw gost i fyfyrwyr
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1008.htmlReading list
Bydd rhestr ddarllen ar gael. Bydd gan y modiwl werslyfr craidd: bydd yn defnyddio erthyglau cyfnodolion, er enghraifft:
American Psychological Association. (1983). Publication manual. Washington, DC: American Psychological Association
Bydd y modiwl hefyd yn defnyddio erthyglau cyfnodolion, er enghraifft:
Senju, A., Maeda, M., Kikuchi, Y., Hasegawa, T., Tojo, Y., & Osanai, H. (2007). Absence of contagious yawning in children with autism spectrum disorder. Biology Letters, 3, 706 - 708.
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 1 (BA/APIS)
- LC31: BA Criminology & Crim Justice & Psychology (with Int Exp) year 1 (BA/CCJPIE)
- MC98: BA Criminology/Psychology year 1 (BA/CRP)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 1 (BA/CYP)
- CQ83: BA English Language & Psychology year 1 (BA/ELPSY)
- Q318: BA Eng Lang for Speech & Language Therapy (Subj to Validn) year 1 (BA/ELSLT)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 1 (BA/FPIE)
- R2C8: BA German with Psychology year 1 (BA/GPSY)
- CL83: BA Sociology/Psychology year 1 (BA/PS)
- CL84: BA Social Policy/Psychology year 1 (BA/SPP)
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 1 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 1 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 1 (BSC/PHSP)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 1 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 1 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BSC/PS1)
- C80F: BSc Psychology year 1 (BSC/PSF)
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSP)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 1 (BSC/PSYFP)
- C84B: BSc Psychology with Forensic Psych (4 yr with Incorp Foundn) year 2 (BSC/PSYFP1)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYFPP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 1 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 1 (BSC/PSYNIE)
- C84P: BSc Psychology with Neuropsychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYNP)
Optional in courses:
- R1C8: BA French with Psychology year 1 (BA/FPSY)
- N5C8: BSc Marketing with Psychology year 1 (BSC/MP)
- C681: BSc Sport & Exercise Psychology w International Experience year 1 (BSC/SEPIE)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 1 (BSC/SEXP)
- M1C8: LLB Law with Psychology year 1 (LLB/LPSY)