Module PCC-2010:
Sgiliau Academaidd Dwyieithog II
Module Facts
Run by School of Human and Behavioural Sciences
10.000 Credits or 5.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Mrs Emma Hughes-Parry
Overall aims and purpose
Nod y modiwl hwn yw adeiladu a chryfhau y sgiliau academaidd sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn y gwyddorau yn gyffredinol. Bydd y modiwl hwn yn ehangu ar sgiliau academaidd myfyrwyr a’u hannog i deimlo'n hyderus yn eu gallu i ledaenu syniadau a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun academaidd, gwyddonol. Mae'r sgiliau yma yn cynnwys trafod, gwerthuso a chyfathrebu ymchwil cyfredol yn gritigol,gan ddefnyddio tystiolaeth cryf i gefnogi syniadau. Nod arall yw datblygu sgiliau cyfathrebu ar lafar y myfyrwyr trwy cwblhau cyflwyniadau academaidd ar lafar a chymryd rhan mewn sesiynau POPPS. Trwy weithio'n annibynnol ar hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gellir eu trosglwyddo i fodiwlau eraill, ac i'r gweithle.
Course content
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) ysgrifennu adroddiadau gwyddonol, mewn ffordd clir a chryno; b) deall a gwerthuso ymchwil cyfredol yn y maes c) defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy ch) dangos sgiliau meddwl yn gritigol d) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifennu yn y Gymraeg e.e. trawsieithu, termau Cymraeg dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg e) ysgrifennu manwl
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil â fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach ac ehangu ar eu sgiliau ysgrifennu ac ymchwil.
Assessment Criteria
threshold
D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir. Dim gwerthusiad.
Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.
Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.
Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
C- to C+
C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Ychydig iawn o ran gwerthusiad. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.
Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.
Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
good
B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad a gwerthusiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.
Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.
Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.
Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
excellent
A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad a gwerthusiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.
Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.
Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.
Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA/Harvard yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
Learning outcomes
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos sgiliau cymwys wrth ysgrifennu gwaith gwyddonol, gan ddefnyddio rheolau fformatio APA/Harvard, iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol.
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y gallu i drawsieithu o iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg yn effeithlon
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y gallu i drafod a dadansoddi deunydd academaidd a dadleuon gwyddonol ar ffurf ysgrifenedig mewn ffordd cryno, critigol trwy gyfrwng y Gymraeg
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y gallu i gyfathrebu a gwerthuso ymchwil gwyddonol ar ffurf lafar trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ffordd cryno a chlir
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth, gwybodaeth a phersnasedd o rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol trwy dadansoddi a gwerthuso papurau ymchwil perthnasol i’r pwnc
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Poster Ymchwil | 50.00 | ||
Cyflwyniad ar lafar | 30.00 | ||
Participation Cymryd rhan yn POPPS | 2.00 | ||
Small Roles Cwblhau rôl fach yn POPPS | 4.00 | ||
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi | 5.00 | ||
Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi | 5.00 | ||
Cwblhau cyflwyniad ar hap | 2.00 | ||
Cwblhau Cyflwyniad ar lafar | 2.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith sgiliau academaidd dwyieithog, a chyflwyniadau ymchwil |
11 |
Workshop | Gweithdai grwpiau bach i ddatblygu sgiliau academaidd gwyddonol |
11 |
Tutorial | Bydd trefnydd y modiwl yn cynnal awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor |
12 |
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi weithio am 100 awr. Disgwylir i chi wario 66 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
66 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Resources
Resource implications for students
Bydd y werslyfr ar gael yn y llyfrgell. Bydd unrhyw erthyglau ymchwil yn cael eu rhannu ar Blackboard, a ni fydd unrhyw gost printio i fyfyrwyr
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-2010.htmlReading list
Bydd rhestr ddarllen ar gael. Bydd gan y modiwl werslyfr craidd:
American Psychological Association. (1983). Publication manual. Washington, DC: American Psychological Association
Bydd y modiwl hefyd yn defnyddio erthyglau cyfnodolion, er enghraifft:
Ghirlanda, S., Jansson, L. & Enquist, M. Chickens prefer beautiful humans. Hum Nat 13, 383–389 (2002). https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1007/s12110-002-1021-6