Module PCC-3005:
Prosiect Fforensig
Module Facts
Run by School of Human and Behavioural Sciences
40.000 Credits or 20.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Dr Awel Vaughan-Evans
Overall aims and purpose
Nod y modiwl hwn yw rhoi profiad uniongyrchol o gynnal ymchwil seicolegol i fyfyrwyr. Bydd hyn yn datblygu eu sgiliau o ran casglu ac adolygu llenyddiaeth, dylunio arbrofion, casglu data, a dadansoddi a dehongli data. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cynllunio, eu sgiliau trefnu, a'u gallu i gydweithio gydag eraill.
Course content
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phob agwedd o'r broses ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofion, ystyried materion moesegol, profi cyfranogwyr, dadansoddi data, ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy D- i D+ Dealltwriaeth wael o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes o seicoleg fforensig. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Ychydig o ddealltwriaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwael o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau amherthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, a/neu llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Trafodaeth wael o ganfyddiadau ymchwil, gan ddangos dealltwriaeth o’r prif egwyddorion yn unig. Dim gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad gwan o wybodaeth ar lafar, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth am brif egwyddorion y pwnc. Amlygwyd rhai o bwyntiau’r ymchwil yn glir, ond gyda llawer o wendidau o ran cywirdeb. Dengys y gallu i ateb ychydig o gwestiynau.
C- to C+
Boddhaol C- i C+
Dealltwriaeth foddhaol o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes o seicoleg fforensig, gyda chyfathrebu weddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol.
Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ambell i gamgymeriad.
Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Trafodaeth a gwerthusiad boddhaol o ymchwil perthnasol, gan ddangos peth ddealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth o brif elfennau’r pwnc, ond gydag ychydig iawn o feddwl critigol. Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r ymchwil, a dengys y gallu i ateb rhai cwestiynau yn hyderus.
excellent
Gwych A- i A**
Dealltwriaeth wych o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes o seicoleg fforensig, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad gwych o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, ac wedi eu cyflwyno’n gywir.
Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad gwych o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
good
Da B- i B+
Dealltwriaeth dda o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil yn y maes o seicoleg fforensig, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Cyflwyniad da o wybodaeth gref am fethodoleg a dadansoddiadau data. Disgrifiad a chymhwysiad da o fethodoleg ymchwil perthnasol. Dadansoddiadau perthnasol wedi eu dewis a’u cynnal, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau.
Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Trafodaeth a gwerthusiad da o ymchwil perthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y maes.
Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth weddol gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol. Amlygwyd prif bwyntiau’r papur yn glir a chryno, a dengys y gallu i ateb cwestiynau yn hyderus.
Learning outcomes
-
Dadansoddi dadleuon yn gritigol a chyfosod ymchwil mewn maes penodol.
-
Adnabod a chwblhau dadansoddiadau data addas
-
Trafod a gwerthuso canlyniadau astudiaethau o fewn cyd-destun y llenyddiaeth berthnasol.
-
Dangos dealltwriaeth o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil seicolegol ac wrth ysgrifennu am yr ymchwil, a sicrhau fod yr ymchwil yn cyd-fynd â chanllawiau moesegol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
-
Datblygu hyder wrth gyflwyno deunydd seicolegol ar ffurf lafar (POPPS).
-
Dangos y gallu i gyfathrebu ymchwil gwyddonol ar ffurf ysgrifenedig ac ar ffurf lafar (POPPS).
-
Dangos y gallu i grynhoi, a chyflwyno gwybodaeth am eich ymchwil gwyddonol ar ffurf lafar.
-
Disgrifio a chymhwyso dulliau ymchwil sy'n berthnasol i faes benodol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd hir | 90.00 | ||
Cyflwyniad Llafar | 10.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Tutorial | Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’ch goruchwyliwr yn ystod y modiwl. Dylid defnyddio’r amser a nodir yma fel canllaw, ond disgwylir i fyfyrwyr gyfarfod gyda’u goruchwylwyr unwaith pob pythefnos (o leiaf). |
12 |
Tutorial | 44 tutorial Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal sesiynau galw draw wythnosol dros y ddau dymor. Caiff fyfyrwyr ddod i’r sesiynau hyn heb wneud apwyntiad. Yn ystod y sesiynau, caiff fyfyrwyr ofyn cwestiynau am y modiwl, y broses ymchwil a/neu aseiniadau’r modiwl. Er hyn, ni fydd trefnydd y modiwl yn darllen nac yn rhoi adborth ar ddrafftiau o’r aseiniadau. Dylai’r myfyrwyr gysylltu gyda'u goruchwylwyr unigol er mwyn derbyn adborth ar eu gwaith. |
44 |
Individual Project | Mae'r modiwl yn fodiwl 40 credyd, ac felly disgwylir i chi wario 400 awr ar y gwaith dros y ddau dymor. Mae cyfarfod gyda’ch goruchwyliwr, mynychu sesiynau galw draw, a mynychu sesiynau POPPS yn cyfrannu at yr oriau hyn, ond dylech ddefnyddio’r oriau sy’n weddill i weithio’n annibynnol ar eich prosiect. Dylech ddefnyddio'r amser yma i*:
*nid yw’r rhestr yma’n gynhwysfawr |
333 |
Workshop | Psychology Oral Presentation Practice Sessions (POPPS) Yn nhymor 1, mi fydd myfyrwyr yn mynychu sesiynau POPPS wythnosol (1-awr o hyd). Yn y sesiynau hyn, mi fydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, ac yn paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar terfynol yn nhymor 2. |
11 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Mentoring - Able to support, help, guide, inspire and/or coach others
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Leadership - Able to lead and manage, develop action plans and objectives, offer guidance and direction to others, and cope with the related pressures such authority can result in