Module QCL-4479:
Traethawd Hir MArts
Traethawd Hir MArts 2022-23
QCL-4479
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
60 credits
Module Organiser:
Alan Wallington
Overview
Gall testunau amrywio, yn dibynnu ar ddewisiadau myfyrwyr a rhaglen y radd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o faterion mewn ieithyddiaeth, ond rhaid iddynt fod yn berthnasol i raglen y radd y mae'r myfyriwr wedi cofrestru arni. Bydd testunau'n cynnwys, ymhlith eraill, ymchwil mewn Ieithyddiaeth Wybyddol, Dwyieithrwydd, Caffael Iaith, Datblygiad Iaith, a dysgu Saesneg fel iaith dramor (TEFL). Bydd y rhan fwyaf o bynciau yn cynnwys casglu a dadansoddi data, ond ni fydd y posibilrwydd o ddefnyddio data presennol neu wneud adolygiad estynedig o lenyddiaeth yn cael ei eithrio os yw'n berthnasol i'r pwnc, ac y cytunir ar hynny â'r goruchwyliwr. Mae’r Ysgol yn gwneud pob ymdrech i oruchwylio unrhyw bwnc y mae myfyrwyr yn ei ddewis, ond yn yr achos prin nad ydy’r Ysgol â’r gallu i oruchwylio pwnc, yna gofynir i fyfyrwyr ddewis pwnc arall.
Dim ond myfyrwyr sydd eisiau casglu data yn ymwneud â phlant neu oedolion sy’n agored i niwed sydd angen prawf DBS (gwelwch isod).”
Assessment Strategy
-threshold -C: Gall y myfyriwr ddangos y lefel isaf dderbyniol o ddealltwriaeth o'r maes y maent wedi dewis ymchwilio iddo; ac wedi cyrraedd y safon isaf sy’n dderbyniol o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o beth astudiaeth gefndir o ffynonellau. Rhaid i'r ateb fod yn berthnasol i'r testun ymchwil a ddewiswyd.
-good -B: Rhaid i'r data ac/neu adolygiad llenyddiaeth gael ei gasglu, ei drefnu a'i ddadansoddi â gofal, ni ddylai gynnwys camddealltwriaeth a gwallau o ran cynnwys na deunydd amherthnasol, a rhaid dangos dealltwriaeth o rai o'r problemau sy'n gysylltiedig â chasglu data ac/neu baratoi adolygiad llenyddiaeth. Rhaid i'r ateb ddangos safon well na'r cyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o gefndir o ffynonellau gwreiddiol. Rhaid i honiadau gael eu cefnogi gan gyfeiriad at theori ac/neu ymchwil empirig. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o feddwl yn ddadansoddol. Rhaid i'r ateb gynnwys fframwaith rhesymegol y cedwir ato ar y cyfan; rhaid i gysylltiadau rhwng rhannau dilynol fod yn hawdd eu dilyn ar y cyfan.Bydd myfyrwyr wedi cyrraedd safon well na’r cyffredin o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu.
-excellent -A: Mae'r myfyrwyr wedi dangos dealltwriaeth drylwyr o'r maes y maent wedi dewis ymchwilio iddo, o ran cynnwys a theori - Rhaid i'r data ac/neu adolygiad llenyddiaeth gael eu gwerthuso'n feirniadol mewn dull rhesymegol; gallu defnyddio cysyniadau'n glir a chywir; dangos tystiolaeth o feddwl yn feirniadol; dadl glir a rhesymegol; a dangos medrusrwydd o ran cyfathrebu, heb unrhyw ddeunydd amherthnasol a gwallau iaith ac atalnodi. Rhaid i'r ymchwil ddangos gwreiddioldeb o ran eglurhad a dealltwriaeth; dylai syniadau'r awdur ei hun fod yn gwbl amlwg. Rhaid i'r ymchwil ddangos fframwaith clir lle mae pob cam dilynol wedi’i gysylltu’n fanwl ac mewn modd synhwyrol ac y dywedir yn fanwl wrth y darllenydd pam y mae’r rhannau hyn yn berthnasol i’r astudiaeth. Rhaid i'r ymchwil ddangos tystiolaeth glir o ddarllen ffynonellau gwreiddiol yn helaeth. Bydd myfyrwyr wedi cyrraedd safon ragorol o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu cynhyrchu a chynnal dadl soffistigedig ac estynedig yn ysgrifenedig.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth a dealltwriaeth soffistigedig o gyfyngiadau moesegol ar gasglu ymchwil a llunio adroddiadau.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ddarllen beirniadol i safon uwch sy'n ystyried nifer o ddarnau o waith ymchwil ysgrifenedig mewn dull priodol a thrylwyr.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ystyried gwahanol ddulliau methodolegol mewn modd soffistigedig a defnyddio dulliau angenrheidiol sy'n addas i'r testun yr ymchwilir iddo.
- Bydd myfyrwyr yn gallu llunio project ymchwil ymarferol soffistigedig o'u heiddo eu hunain gyda sgôp sylweddol iddo
- Bydd myfyrwyr yn gallu nodi a defnyddio corff perthnasol o dystiolaeth i safon uwch.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ymwneud â darn sylweddol o ymchwil academaidd, unigol ar destun o'u dewis i safon uwch.
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd Hir (15000 - 20000 words)
Weighting
100%
Due date
22/05/2023
Assessment method
Other
Assessment type
Ffurfiannol
Description
Ymarfer 2 - Dadansoddiad Siarad
Weighting
0%
Due date
21/11/2022