Module SCL-2139:
Cyfraith Datganoli
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Miss Lois Nash
Overall aims and purpose
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddysgu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gywir o ddatblygiad y gyfraith yng Nghymru ar ôl datganoli, ynghyd â throsolwg ar hanes datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Bydd yn galluogi myfyrwyr i asesu’r datblygiad a’r hanes hwnnw yn feirniadol a chymharu a gwrthgyferbynnu'r datblygiad a’r hanes hwnnw yn gywir ac yn berthnasol gyda systemau cyfreithiol eraill y mae’r myfyriwr yn gyfarwydd â hwy.
Course content
Mae’r cwrs yn edrych ar gyfraith datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Caiff datblygiad hanesyddol datganoli yng Nghymru ei astudio; yn cynnwys effaith Statud Rhuddlan 1284, Deddfau Uno’r unfed ganrif ar bymtheg a’r broses raddol o ddatganoli grym i adrannau a swyddfeydd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd astudiaeth fanwl o Ddeddfau Llywodraeth Cymru a Mesur y Gymraeg (Cymru), ynghyd â’r modd y mae darpariaethau’r statudau hynny’n cael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl y datganoli, a barn ysgolheigaidd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad, rhoddir ystyriaeth i ddatblygiad cyfansoddiad Cymru ac ymddangosiad awdurdodaeth Cymru. Caiff datblygiadau cyfreithiol a ysgogwyd gan ddatganoli hefyd eu hystyried yng nghyd-destun y DU; gweinyddu cyfiawnder, yn benodol cyfraith weinyddol; a datblygiad cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU ac yn Ewrop. Drwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn ymwneud â newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd ehangach. Rhoddir sylw arbennig i’r setliad datganoli yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymunedau Ymreolaethol Sbaen; a Länder yr Almaen.
Assessment Criteria
threshold
D- hyd at D+ (40-49%) Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.
Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy.
excellent
A- hyd at A (70%+) Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A*) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.
Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
good
B- hyd at B+ (60-69%) Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
C- to C+
C- i C+ (50-59%) Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
Learning outcomes
-
Disgrifio’n gywir, dadansoddi a sylwebu ar ddatblygiad sefydliadau a meysydd y gyfraith yng Nghymru ar ôl datganoli trwy gyfeirio at ffynonellau gwreiddiol a ffynonellau eilaidd priodol, gan berthnasu’r datblygiad i’w achosion a’i effeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
-
Disgrifio’n gywir, dadansoddi, cymharu a sylwebu ar ddatblygiad sefydliadau a meysydd y gyfraith yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU ac Ewrop, gan eu perthnasu i’w hachosion a’u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
-
Bod yn ymwybodol o’r cyd-destun ehangach mewn yng nghyswllt gweithredu cyfraith datganoli yng Nghymru, e.e. y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â'r llywodraeth ganolog yn Whitehall.
-
Cyflwyno dadl gyfreithiol resymegol yng nghyswllt cyfraith datganoli.
-
Trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol yn ysgrifenedig mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
-
Gwneud ymchwil cyfreithiol annibynnol, yn cynnwys anfod, nodi a defnyddio ffynhonellau disgrifiadau cyfreithiol perthnasol yng nghyswllt cyfraith datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd | 40.00 | ||
Arholiad | 60.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | 2x 2 awr darlith yr wythnos a deg wythnos, unai yn fyw yn y dosbarth neu ar-lein |
40 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi'n annibynnol ar gyfer rhai dosbarthiadau ac wrth baratoi'r aseiniadau. |
160 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
Subject specific skills
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Resources
Resource implications for students
Dim, oni bai bod myfyrwyr eisiau prynu deunyddiau eu hunain.
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scl-2139.htmlReading list
Watkin, Wales: An Introduction to its Legal History (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) R. Gwynedd Parry Cymru’r Gyfraith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012) Rawlings, Delineating Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003) Bogdanor, V. Devolution in the United Kingdom (OUP, 2001) Hazell, R. & Trench, A. (gol.) The State of the Nation, 2000-2008
Pre- and Co-requisite Modules
Pre-requisites:
Courses including this module
Optional in courses:
- N2M1: BA Business Management and Law year 2 (BA/BML)
- N2MB: BA Business Man & Law (4 year with Incorp Foundation) year 2 (BA/BML1)
- NM11: BA Business and Law year 2 (BA/BUSALAW)
- NM1B: BA Business and Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/BUSLAW1)
- M100: LLB Law year 2 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (LLB/L1)
- M102: LLB Law (International Experience) year 2 (LLB/LI)
- M10P: LLB Law with Placement Year year 2 (LLB/LP)