Module SCL-2165:
Cyfraith Cymru
Cyfraith Cymru 2024-25
SCL-2165
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lois Nash
Overview
Mae'r modiwl yn edrych yn benodol ar sut mae cyfraith yng Nghymru wedi datblygu'n wahanol i'r gyfraith yn Loegr, a hynny oherwydd datganoli. Nid yw Cymru'n awdurdodaeth cyfreithiol ar wahan i Loegr ar hyn o bryd, oherwydd bod y farnwriaeth a'r llysoedd yn dilyn cyfraith Cymru a Lloegr a wneir gan Senedd y Deyrnas Unedig, ac felly nid yw'n benodol i Gymru; ond, mae yna gorff o gyfraith Cymreig sydd yn tyfu yn sydyn iawn. Gall hyn beri dryswch wrth geisio canfod lle mae'r gwahaniaethau yn y gyfraith, a pha gyfraith dylid gyfeirio ato mewn sefyllfa penodol. Felly, mae'n hynod bwysig bod gan unrhyw un sy'n ymwneud a'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ddealltwriaeth llawn o'r gwahaniaethau pwysig yma
Caiff trosolwg bras o ddatganoli i gychwyn, er mwyn gwerthfawrogi'r cyd-destun ehangach, ynghyd ag esboniad o sut y caiff cyfraith ei greu yng Nghymru. Ceir hefyd astudiaeth fanwl a thrafodaeth difyr o'r meysydd cyfraith lle mae gwahaniaethau sylweddol rhwng Cymru a Lloegr, megis addysg, iechyg a chyfiawnder gweinyddol. Bydd cyfle hefyd i edrych yn feirniadol ar adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (2019), ag edrychodd ar datganoli'r system cyfiawnder yn llawn yng Nghymru.
subject to validation in July
Learning Outcomes
- Canfod a dadansoddi ffynhonellau cyfreithiol perthnasol yng nghyswllt cyfraith Cymreig wrth gynnal ymchwil annibynnol.
Identify and analyse relevant legal resources in connection with Welsh law while conducting independent research.
- Cyfathrebu gwybodaeth perthnasol yn gryno ac yn effeithiol, yn ysgrifenedig mewn arholiad.
Communicate relevant information succinctly and effectively, in writing in an examination.
- Dangos gwybodaeth gynhwysfawr o ddatblygiadau diweddar mewn cyfraith Cymreig a'r tirwedd gwleidyddol ehangach.
Demonstrate comprehensive knowledge of recent developments in Welsh law and the wider political landscape.
- Dangos y gallu i strwythuro a mynegi dadleuon yn effeithiol yng nghyswllt a chyfraith Cymreig.
Demonstrate the ability to structure and articulate arguments effectively in relation to Welsh law.
- Mesur hyd a lled y gwahaniaethau rhwng y gyfraith yng Nghymru a'r gyfraith yn Loegr. Appraise the differences between the law in Wales and the law in England.
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
40%
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad
Weighting
60%