Module SCL-3113:
Traethawd Hir
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
40.000 Credits or 20.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Dr Hayley Roberts
Overall aims and purpose
Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol a sgiliau ymchwil trwy ysgrifennu darn estynedig o waith yn seiliedig ar ymchwil ar bwnc cyfreithiol mewn maes penodol, dan oruchwyliaeth aelod unigol o staff. Bydd myfyrwyr yn adeiladu ar sgiliau allweddol a gafwyd eisoes mewn blynyddoedd blaenorol, ac yn dysgu sut i lunio a phrofi rhagdybiaeth, datblygu dadleuon rhesymegol a chyflwyno'r syniadau yma'n ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae'r modiwl hwn yn herio myfyrwyr i ymarfer hunanddisgyblaeth ac astudrwydd wrth gynnal dadansoddiad manwl o'r deunydd ymchwil, ac i gyfleu sgiliau dadansoddi beirniadol da wrth ysgrifennu'r traethawd. Gall traethawd sylweddol fod yn arddangosiad clir i ddarpar gyflogwyr o allu academaidd a phwerau dadansoddi a mynegiant myfyriwr.
Course content
Bydd dewis cychwynnol y myfyriwr o bwnc traethawd hir yn cael ei drefnu cyn dechrau'r modiwl a bydd y pynciau dan sylw yn amrywiol. Mae gweithdai yn cyflwyno'r modiwl, ac yn egluro prosesau pwysig fel llunio rhagdybiaeth, nodau ac amcanion, a chwestiynau ymchwil; pwysigrwydd strwythur da; a llunio dadleuon rhesymegol. Gyda'r gefnogaeth hon yn cael ei darparu ar ddechrau'r modiwl, bydd myfyrwyr fel arall yn gweithio'n annibynnol ond gyda chefnogaeth goruchwyliwr a fydd yn gyffredinol yn ymwybodol o, ac yn aml yn arbenigwr ym maes pwnc traethawd hir y myfyrwyr. Ceir gweithdai eraill ar adegau priodol dros y flwyddyn, yn ymdrin a pynciau megis llunio pennod casgliadau a sgiliau cyflwyno.
Bydd pedair tiwtorial ffurfiol efo'r goruchwyliwr yn ystod y modiwl. Ar ddiwedd y modiwl, bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad llafar byr i gynulleidfa sy'n cynnwys cyd-fyfyrwyr a staff mewn fformat arddull cynhadledd, a bydd gofyn iddynt fod yn rhan o'r gynulleidfa honno ar gyfer myfyrwyr eraill. Mae hyn yn datblygu sgiliau gwrando a deall.
Assessment Criteria
good
Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
B- hyd at B+ Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
C- to C+
Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
C- i C+ Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
excellent
Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A*) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.
A- hyd at A* Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
threshold
Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.
D- hyd at D+ Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy.
Learning outcomes
-
Dangos lefel uchel o fedrusrwydd wrth strwythuro a mynegi dadleuon mewn maes problem.
Demonstrate a high level of skill in structuring and articulating arguments in a problem area.
-
Dangos tystiolaeth o feddwl dadansoddol neu datrys problemau gwreiddiol, yn cynnwys y gallu i ddadansoddi awdurdodau cyfreithiol mewn cyd-destunau sy'n berthnasol i bwnc y traethawd hir.
Display evidence of original analytical thinking or problem solving, including the ability to analyse legal authorities in contexts relevant to the dissertation topic.
-
Dangos medrusrwydd wrth gyflwyno canfyddiadau ymchwil ar lafar, gan ddefnyddio cyflwyniad Powerpoint (neu tebyg)
Demonstrate proficiency in presenting research findings orally, using a Powerpoint presentation (or similar)
-
Dangos meistrolaeth o systemau cyfeirio priodol.
Demonstrate mastery of appropriate referencing systems.
-
Cyfosod a gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth gyhoeddedig priodol ar bwnc ymchwil penodol.
Synthesise and critically evaluate relevant published information on a specific topic of research.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
DISSERTATION | Traethawd Hir | Traethawd hir terfynol, 8,000 - 10,000 o eiriau |
70.00 |
ORAL | Cyflwyniad | Cyflwyniad sydd yn cyflwyno'r prif syniadau'r traethawd hir mewn ffordd clir a dealladwy. Meini Prawf Cyflwyniad: Cynnwys 40% A yw'r pwnc wedi'i gyflwyno, a roddir yr holl wybodaeth angenrheidiol, a yw'n cael ei chyflwyno'n rhesymegol, a yw'n cael ei gwerthuso'n feirniadol, oes cyfeirnodau? Traddodiad 15% A yw'n glir, yn groyw, a yw'r cyflymder yn gyffyrddus, a yw'n ddiddorol? Sleidiau 25% A ydyn nhw'n glir, yn rhesymegol ac yn ddarllenadwy? Amseru 10% 10-12 munud: 100%. 9-13 munud: 70%. 8-14 munud: 50%. 7-15 munud: 40%. Y tu hwnt: 20% Holi ac Ateb 10% A yw pob cwestiwn yn cael ei ateb mewn ffordd wybodus ac 'i'r pwynt'? |
30.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Student presentations | 1x sesiwn 2-awr yn mynychu cyflwyniadau cyfoedion, ac yn rhoi cyflwyniad eu hunain |
2 |
Individual Project | Bydd y myfyriwr yn cynhyrchu darn sylweddol o ymchwil ac ysgrifennu annibynnol sy'n tynnu ar eu hymchwil eu hunan. |
387 |
Workshop | 6x Gweithdy 1 awr o hyd (wedi'i amseru'n briodol dros 2 semester) yn cefnogi sgiliau megis llunio damcaniaeth a chwestiynau ymchwil, ysgrifennu cyflwyniad da, dadansoddi'n feirniadol, ysgrifennu casgliad, a sgiliau cyflwyno ar lafar. |
6 |
One-to-one supervision | 4x awr goruchwylio. Dynodir goruchwyliwr traethawd hir i bob myfyriwr fydd yn ei gyfarfod fel rheol mewn sesiwn un-i-un er mwyn goruchwylio'r ymchwil a thrafod cynnydd. Mae'r 4 awr yn cynnwys amser i ddarllen y gwaith a rhoi adborth. |
4 |
Tutorial | 2x sesiwn hanner awr o hyd gyda'r goruchwyliwr yn trafod y cynnig ffurfiannol (proposal). 1x sesiwn cyn llunio'r cynnig i drafod ei gynnwys, ac 1x sesiwn ar ol cyflwyno'r cynnig er mwyn trafod adborth. |
1 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Resources
Resource implications for students
Mae hyn yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil.
Reading list
Mae nifer fawr o lyfrau ar gael sy'n rhoi arweiniad addas ar sut i fynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu Traethawd Hir. Mae nifer ar gael yn llyfrgell y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol:
Abbott, M. (ed), History Skills: A Student’s Handbook (2nd ed., London, 2008) [contains a chapter on dissertations] Barber, S. and C. Peniston-Bird (eds), History beyond the Text: a student's guide to approaching alternative sources (London, 2009) Booth, W. C. et al., The Craft of Research (Chicago, 1995) Chambers, E. and Northedge, A., The Arts Good Study Guide (Oxford, 1997) Dobson, M. and B. Ziemann (eds), Reading Primary Sources: The Interpretation of Texts from 19th and 20th Century History (London, 2009) Fairburn, G. J. and Winch, C., Reading, Writing and Reasoning (2nd ed., Ox-ford, 1996) Greetham, B. How to write your undergraduate dissertation (2nd ed., Basingstoke, 2014). Harvey, K.A., History and Material Culture: A Student’s Guide to Approaching Alternative Sources (London, 2009) Mann, T., The Oxford Guide to Library Research (Oxford, 1998) Marshall, L., A Guide to Learning Independently (2nd ed., Oxford, 1993) Northedge, A., The Good Study Guide (Oxford, 1990) Partridge, E., Usage and Abusage: a guide to good English (Harmondsworth, 1973) Robson, C., How to do a Research Project: A guide for undergraduate students (Oxford, 2007). Rudestam, K.E. and Newton, R., Surviving your dissertation: a comprehensive guide to content and process (4th ed., Thousand Oaks, California 2015) Sharp, J. A. et al., The Management of a Student Research Project (3rd ed., Farnham, 2007) Smith, K., Todd, M. and Waldman, J., Doing your undergraduate social science dissertation (New York, 2009) Storey, W. K., Writing History: A Guide for Students (New York, 1998) Swetnam, D., Writing your dissertation: the bestselling guide to planning, preparing and presenting first-class work (Oxford, 2009) Truss, L., Eats, Shoots & Leaves: the Zero Tolerance Approach to Punctuation (London, 2003) Turabian, K. L., A Manual for Writers of Research Papers, Theses, and Dissertations (7th ed., Chicago, 2007) Walliman, N and Appleton, J., Your undergraduate dissertation in health and social care: the essential guide for success (London, 2009)
Courses including this module
Optional in courses:
- M100: LLB Law year 3 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (LLB/L1)
- M102: LLB Law (International Experience) year 4 (LLB/LI)
- M10P: LLB Law with Placement Year year 4 (LLB/LP)