Module SCS-3013:
Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Cynog Prys
Overall aims and purpose
Canolbwynt y modiwl hwn yw dadansoddiad rhai o weithiau theoretaidd cymdeithasol y cyfnod modern, gan ganolbwyntio ar waith Antonio Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt, a Pierre Bourdieu. Bydd y modiwl hwn yn astudio datblygiad y traddodiad Marcsaidd gan edrych ar rai o’u prif gysyniadau a’u damcaniaethau pwysicaf y theoretwyr hyn. Ystyrir sut mae theorïau hyn yn berthnasol yn ein cymdeithas gyfoes, gan dalu sylw arbennig i’r drafodaeth ynghylch pŵer, tra-arglwyddiaeth a chyfalaf o fewn cymdeithas gyfoes. Datblygir y sgiliau astudio angenrheidiol i allu crynhoi dadleuon a gwybodaeth ynghylch syniadau'r theoretwyr, a chynnig beirniadaeth o’u gwaith.
Course content
Diben y modiwl hwn yw astudio’r consensws a’r gwrthdaro o fewn cymdeithas, gan gwestiynnu’r modd y mae grymoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn codi cwestiynau ynglŷn â sut mae normau a gwerthoedd cymdeithasol yn cael ei gyfreithloni, gan gwestiynu buddiannau pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y gwerthoedd hyn. Byddwn felly yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, gan gloriannu’r dadleuon rhwng galluedd yr unigolyn a dylanwad strwythurau cymdeithas ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn gorffen drwy ystyried enghreifftiau o synthesis theoretaidd rhwng y ddau safbwynt.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i rai o theoretwyr cymdeithasegol y cyfnod modern, gan adeiladau ar ei dealltwriaeth o theory gymdeithasegol glasurol. Cychwynnir drwy astudio’r modd y datblygodd y traddodiad Marcsaidd gan dalu sylw penodol at gyfraniad Antonio Gramsci. Wrth drafod gwaith Gramsci byddwn yn canolbwyntio ar ei gysyniad o hegemoni, rheolaeth gymdeithasol a chydsyniad.
Yna byddwn yn astudio damcaniaeth gwrthdaro, a chyfraniad meddylwyr yr Ysgol Frankfurt (e.e. Marcuse, Adorno, Hokenhimer, a Habermas). Fel Gramsci, roedd y theoretwyr hyn yn ysgrifennu yn y traddodiad Marcsaidd gyda diddordeb mewn pŵer a rheolaeth gymdeithasol. Astudiwn y modd yr oedd y theoretwyr amrywiol o fewn yr YF yn dehongli’r modd yr oedd y system yn tra-arglwyddi dros unigolion, yn gorchymyn, manipiwleiddio, dallu a thwyllo unigolion i gynnal ac atgynhyrchu strwythur cymdeithas.
Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried cyfraniad Pierre Bourdieu a’i ymgais i gynhyrchu synthesis o alluedd yr unigolyn a dylanwad strwythur cymdeithas. Trafodir cysyniadau Bourdieu o habitus, cyfalaf, a meysydd, gan drafod y modd cudd y mae Bourdieu yn gweld pŵer yn dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol. Byddwn hefyd yn ystyried defnydd ffeministiaid o gysyniadau Bourdieu o ran theory ymgorfforiad.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy: Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol. H.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif weithiau theoretaidd Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu, a'r prif gysyniadau perthnasol, bod yn ymwybodol o'r dylanwadau a fu ar eu syniadau, a'r modd y gellir cymhwyso eu waith at y sefyllfa gyfoes.good
Da: Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth a barn aeddfed, yn gallu gweld y cyswllt rhwng theorïau ac ymarfer cymdeithasol, ac yn gallu cyfeirio at weithiau ac enghreifftiau perthnasol yng ngweithiau Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu.excellent
Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol yn gallu defnyddio'r wybodaeth yn ddadansoddol a beirniadol, ac yn gallu cymhwyso'r theorïau at sefyllfaoedd cymdeithasol penodol.Learning outcomes
- Adeiladu ar ei dealltwriaeth o theori gymdeithasegol glasurol (SCS 2007).
- Dadansoddi'n feirniadol gysyniadau a theorïau cymdeithasegol gyfoes e.e. Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu.
- Gwerthuso'r dylanwadau ar gysyniadau’r theorwetwyr cymdeithasegol dan sylw.
- Cyflwyno syniadau’r theoretwyr hyn mewn modd clir a rhesymegol.
- Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o dystiolaeth a dadleuon cymhleth trwy astudiaeth annibynnol
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd. Byddwn yn cyfarfod am 2 awr bob wythnos ar gyfer darlith a seminar. Bydd gwaith darllen yn cael ei osod ar gyfer pob seminar ac mae disgwyl i bawb ddarllen y deunydd a pharatoi yn drylwyr ar gyfer trafod y gwaith. |
200 | |
Seminarau. |
Pre- and Co-requisite Modules
Pre-requisites:
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 3 (BA/CCCJ)
Optional in courses:
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)