Module SCW-4007:
Y Cwrs Bywyd
Y Cwrs Bywyd 2024-25
SCW-4007
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Gwenan Prysor
Overview
Ystyrir ymarfer gwaith cymdeithasol mewn perthynas a datblygiad dynol ar draws y cwrs bywyd, sy’n golygu rhoi ystyriaeth i ddatblygiad corfforol, seicolegol a chymdeithasol yn ystod plentyndod, glasoed, ac oedolaeth ifanc, canol a hŷn.
Ystyrir hefyd wahanol drawsnewidiadau, amgylchiadau ac ymyrraeth sydd ei angen ar wahanol adegau yn ystod y cwrs bywyd, gan gynnwys anabledd, salwch meddwl, camdriniaeth a chyflyrau meddygol. Mae dylanwadau cymdeithasol, cymdeithasegol a strwythurol hefyd yn berthnasol i ddatblygiad cwrs bywyd.
Effeithir ar ddatblygiad ac ymddygiad gan ddigwyddiadau bywyd all fod yn ddisgwyliedig neu’n annisgwyl, ac yn brofiadau cadarnhaol neu negyddol, a bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i ac yn annog cymhwysiad a dadansoddiad beirniadol o ddamcaniaethau allweddol datblygiad dynol.
Ystyrir datblygiad mewn perthynas â gwahaniaeth sy'n deillio o ddiwylliant, ethnigrwydd, amhariad a gender, gyda myfyrwyr yn cael eu herio i ddadansoddi gwahaniaeth yn feirniadol o ran angenrheidiau gwaith cymdeithasol.
Bydd cysyniadau megis ymlyniad, hunaniaeth, newid, gwydnwch a cholled yn cael eu harchwilio o ran eu perthnasedd i ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar gyd-destunau cymdeithasol-economaidd a gwleidyddol y materion hyn a phwysigrwydd gwneud cysylltiadau rhwng datblygiad unigolion a theuluoedd ac anfantais.
Mae ystyriaethau gwrth-ormesol yn greiddiol i'r modiwl hwn ac mae gofyn i fyfyrwyr integreiddio gwybodaeth o fodiwlau eraill y rhaglen, e.e. y modiwlau Gwerthoedd a Moeseg a Pholisi Cymdeithasol.
Astudir y pynciau canlynol yn ystod y modiwl:
Safbwyntiau cymdeithasegol ar gwrs bywyd Theorïau Datblygiadol cwrs bywyd Theorïau Seicodynamig Theori Ymlyniad a chwrs bywyd Theori Datblygiad Gwybyddol Theori Dysgu Gwytnwch a Bregusrwydd Systemau Teuluol Safbwyntiau Ecolegol
Assessment Strategy
-threshold -(C) Bydd myfyrwyr wedi creu cysylltiadau sylfaenol rhwng theori ac ymarfer mewn perthynas â'r astudiaeth achos penodol. Bydd myfyrwyr wedi dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cyd-destun damcaniaethol ac ymwybyddiaeth o lenyddiaeth berthnasol. Hefyd, byddant wedi lleoli eu hymarfer yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Bydd gwerthoedd ac arfer gwrth-ormesol yn amlwg. Bydd y gwaith, gan gynnwys dyfynnu a chyfeirio, yn glir ac yn rhydd o wallau sylweddol.
-good -(B) Bydd y myfyrwyr yn dangos cymhwyso clir a chyson o theori ac ymarfer mewn perthynas â'r astudiaeth achos penodol. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cyd-destun damcaniaethol ac yn gyfarwydd â llenyddiaeth berthnasol. Bydd eu hymarfer yn cael ei leoli'n glir ac yn gyson o fewn cyd-destun gwaith cymdeithasol cyfoes yng Nghymru. Bydd gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol nodwedd amlwg drwy gydol y gwaith. Bydd strwythur y cyflwyniad, gan gynnwys dyfynnu a chyfeirio, yn glir ac yn gyson.
-excellent -(A-/A*) Bydd myfyrwyr wedi dangos cymhwyso ardderchog o theori ac ymarfer mewn perthynas â'r astudiaeth achos penodol. Bydd myfyrwyr wedi dangos gwybodaeth gynhwysfawr ac yn feirniadol o'r cyd-destun damcaniaethol ac wedi ymgysylltu'n feirniadol â llenyddiaeth berthnasol. Bydd myfyrwyr hefyd wedi dangos sgiliau dadansoddol gwych a dod i gasgliadau craff. Bydd gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol wedi eu hintegreiddio a'u cadarnhau drwy gydol y gwaith. Bydd llif a strwythur clir i'r cyflwyniad, yn cynnwys cyfeiriadath gywir cynhwysfawr.
Learning Outcomes
- Archwilio'n feirniadol effaith gorthrwm, gwahaniaethu ac anfantais strwythurol ar unigolion ar draws oes, a sut y gallant effeithio ar lesiant, achosi i unigolion fod yn agored i niwed neu fod mewn risg, a'r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol.
- Cymhwyso a gwerthuso ystod o safbwyntiau cwrs bywyd yn feirniadol gan gynnwys safbwyntiau biolegol, seicolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac ecolegol.
- Cymhwyso gwybodaeth am gwrs bywyd yn feirniadol o fewn cyd-destun gwerthoedd gwaith cymdeithasol, ymarfer gwrth-ormesol a moesegol, gan gynnwys ymarfer sy’n ieithyddol sensitif.
- Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol sut y mae deddfwriaeth a pholisi yn dylanwadu ac yn darparu fframwaith ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol gydag unigolion, gan gynnwys dulliau, ymyriadau a gwasanaethau perthnasol.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddamcaniaethau datblygiad dynol a sut y gallent hysbysu dealltwriaeth o anghenion unigolion.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Aseiniad 3,000 o eiriau
Weighting
100%
Due date
09/01/2023