Module UXC-2046:
Y Ffilm ddogfen:Theori
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Dyfrig Jones
Overall aims and purpose
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol i fyfyrwyr o esblygiad y ffilm ddogfen, o'i tharddiad yn y 1900au hyd heddiw. Byddwn yn astudio hanes ffilmiau dogfen yng nghyd-destun theori a bydd hyn yn galluogi'r myfyrwyr i ddeall sut mae ffilmiau dogfen wedi datblygu dros amser. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gwestiynnau theoretaidd, gan edrych yn fanwl ar waith nifer o awduron sydd wedi ysgrifennu am y ffilm ddogfen.
Course content
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddatblygiad ffilmiau dogfen gan geisio gosod datblygiadau pwysig mewn cyd-destun damcaniaethol. Caiff hanes y ffilm ddogfen ei drafod yng nghyd-destun y cwestiynnau syniadaethol a ddilynodd o esblygiad gwahanol fathau o ffilmiau dogfen. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn edrych ar amrediad o ffilmiau, o'r 1920au hyd heddiw, ond bydd mwyafrif y ffilmiau a fydd yn cael eu harchwilio yn rhai cyfoes. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi'r ffilmiau, gan gyfeirio at theori dogfen wedi ei ysgrifennu gan amrywiaeth o awduron, gan gynnwys: John Grierson, Dziga Vertov, Paul Rotha, Bill Nichols, Stella Bruzzi, John Corner, a Paul Wells, ymhlith eraill.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy (40%+)
Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:
- Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor.
- Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur.
- Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
- Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
good
Da (50%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
Da iawn (60%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
excellent
Rhagorol (70%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
- Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
- Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning outcomes
-
Dynodi cerrig milltir pwysig yn natblygiad diweddar ffilmiau dogfen
-
Gwerthuso ffurf a chynnwys ffilm ddogfen yn feirniadol
-
Cymhwyso theori ffilm wrth werthuso testunau ffilm yn feirniadol
-
Dynodi a disgrifio prif theorïau ffilm ddogfen
-
Dynodi a dadansoddi gwaith nifer o wneuthurwyr ffilm dogfen yn feirniadol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Cyflwyniad grwp | 40.00 | ||
Traethawd | 60.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | 178 | |
Seminar | Seminar 1 awr yr wythnos |
11 |
Lecture | Darlith cyfrwng Saesneg, awr yr wythnos |
11 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Pre- and Co-requisite Modules
Pre-requisite of:
Courses including this module
Optional in courses:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)