Module WXC-2000:
Cyfarwyddo
Cyfarwyddo 2023-24
WXC-2000
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Crynodeb o Gynnwys y Cwrs:
- Cyflwyno ymchwil ddamcaniaethol ac ymarferol mewn ymarfer cyfarwyddwr a dramodwr.
- Edrych ar ddulliau ymarfer a gwaith golygfa wrth gyfarwyddo actorion
- Gwerthuso llunio a datblygu naratif trwy ddadansoddi testun
- Edrych ar y broses gydweithio wrth ddatblygu perfformiad byw o’r testun i’r cynhyrchiad, hynny yw, edrych ar berthynas y dylunydd goleuadau, dylunydd sain, dylunydd set a’r cyfansoddwr gyda'r cyfarwyddwr.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
-good -Da iawn B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
-excellent -Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
-another level-Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Learning Outcomes
- Wedi bod yn gyfranogwr gweithredol a chreadigol yn y broses ddrama
- Wedi cymryd rhan mewn cyfnod estynedig o archwilio ar sail theori ac ymarfer i gynorthwyo wrth greu perfformiad gwreiddiol.
- Wedi deall y sgiliau, dulliau gweithio a chamau gweithredu priodol sydd eu hangen wrth wneud gwaith perfformio.
- Wedi gwneud ymchwiliad annibynnol, ar sail ymchwil, i oleuo gwaith ysgrifenedig ac ymarferol
- Yn gallu nodi a thrafod y prosesau damcaniaethol ac ymarferol sy'n ofynnol mewn gwaith cyfarwyddwr.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Cyfarwyddo Monolog Trwy baratoi dadansoddiad testun cychwynnol ac astudiaeth o gymeriad, bydd gofyn i chi baratoi a chyfarwyddo aelod arall o'r dosbarth trwy gyfres o ymarferion Arsylwi ymarfer - wythnos 6ed o Dachwedd 2023 5 munud o berfformiad o fonolog wedi ei gyfarwyddo - wythnos 13 o Dachwedd 2023
Weighting
20%
Due date
17/11/2023
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Cyfarwyddo Perfformiad byr Paratoi golygfa i'w pherfformio sy'n dangos ymchwil manwl a gwybodaeth am ddadansoddi sgriptiau, technegau a sgiliau. Dangos y sgiliau hyn ar waith gydag actorion a rhoi nodiadau a syniadau a thechnegau ar waith Cyfnod arsylwi cyfarwyddo - wythnos 20 o Dachwedd 2023 Perfformiad 15 munud o waith wedi ei gyfarwyddo - wythnos 4ydd o Ragfyr 2023
Weighting
40%
Due date
08/12/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad o bortffolio cyfarwyddo Mae'r portffolio micro yn ddogfen sy’n cynnwys dewisiadau cyfarwyddwyr yn eu gwaith cynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys syniadau ymchwil cysyniadol, trefn llwyfannu, cydweithrediadau posib â dylunwyr goleuadau a sain a gwisgoedd yn ogystal â chyfansoddwyr. Sut byddai myfyrwyr yn mynd ati i gyfarwyddo eu gweledigaeth eu hunain o ddrama benodol? Bydd y portffolio yn gyflwyniad digidol o destun, delweddau, sain a cherddoriaeth fewn cyflwyniad wedi ei recordio o fewn 10 munud.
Weighting
40%
Due date
10/01/2024