Module WXC-2232:
Cerddorfaeth Heddiw
Cerddorfaeth Heddiw 2024-25
WXC-2232
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Wth. Cynnwys: 1. Cyflwyniad i'r modiwl ac i Nodiant 2. Cyflwyniad i'r offerynnau llinynnol 3. Cyflwyniad i'r chwythbrennau 4. Cyflwyniad i'r Offerynnau Pres I 5. Adnabod llinellau melodig & Cerddorfaethu sgorau piano 6. -- 7. Cyflwyniad i'r offerynnau taro I 8. Vaughan Williams - Fantasia on a Theme by Thomas Tallis 9. Offerynnau chwyth ychwanegol & Offerynnau Pres II 10. Sgorio crescendo & Effeithiau antiffonaidd 11. Cyflwyniad i'r offerynnau taro II 12. Tueddiadau cyfoes & Creu Sgor a Rhannau
Assessment Strategy
-threshold -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth sylfaenol ond cyfyngedig o sgorio ar gyfer cerddorfa, gan wneud defnydd cywir ac addas o farciau bwa i'r llinynnau, aseinio synhwyrol o'r llinynnau, chwythbrennau a'r offerynnau pres, a gwybodaeth ymarferol o drawsgyweirio perthnasol yn y chwyth a phres.
-good -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, nid yn unig yn arddangos gwybodaeth o'r defnydd o farciau bwa, ac aseinio addas o'r llinynnau, chwybrennau a'r pres, ond hefyd yn arddangos dychymyg a chreadigrwydd ymarferol yn y defnydd o offerynnau.
-excellent -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, gan wneud defnydd lawn o dechnegau cerddorfaethu, ac yn dangos gwreiddioldeb mewn wrth gyfuno y timbre offerynnol.
Learning Outcomes
- O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr wedi datblygu sgiliau ar gyfer adolygu, beirniadu a thrafod technegau cerddorfaethu.
- O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn medru arddangos lefel o greadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg tra'n cerddorfaethu ar gyfer cerddorfa lawn.
- O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn medru sgorio mewn arddull addas ar gyfer cerddorfa, gan ysgrifennu yn idiomatig i'r offerynnau a ddefnyddir.
Assessment type
Summative
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
50%