Module WXC-2303:
Genres a Chyfansoddwyr A
Genres a Chyfansoddwyr A 2024-25
WXC-2303
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio’n fanwl faes cerddorol sy'n gysylltiedig â diddordebau ymchwil staff.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn darlith a seminar wythnosol, yn ogystal â grŵp astudio dan arweiniad myfyrwyr sydd wedi'i gynllunio i fagu eich hyder wrth ddeall y pwnc a'r darlleniadau cysylltiedig, gan eich paratoi'n well ar gyfer trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r pwnc a gynigir yn y modiwl hwn yn newid bob blwyddyn ac yn deillio o arbenigeddau a diddordebau ymchwil staff. Mae rhai pynciau'n ymdrin â chyfansoddwyr penodol ac/neu genres (megis 'Beethoven a’r Pedwarawd Llinynnol', neu 'The Beatles'), tra bod eraill yn edrych ar draws sawl genre – clasurol a phoblogaidd (fel 'Music and Censorship').
Wrth ddilyn y modiwl hwn byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau mewn meddwl beirniadol a dadansoddi, trafod, cyfathrebu, ymchwil a chydweithio.
Mae tri asesiad. Cyflwyniad yw'r cyntaf (a all fod ar un pwnc neu fel rhan o drafodaeth ar thema). Cyn traddodi’r cyflwyniad byddwch yn cyflwyno amlinelliad o'ch syniadau. Ar ddiwedd y semester byddwch yn cyflwyno traethawd byr (gellir cyflwyno hwn fel sgript podlediad).
Mae'r union bwnc/bynciau yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Nid yw'r rhestr o reidrwydd yn hollgynhwysfawr.
- Adfywiadau Cerdd
- Y Beatles
- Beethoven a'r Pedwarawd Llinynnol
- Cage a Cherddoriaeth Arbrofol
- Celfyddyd Serch Llys
- Y Ffidil yn Niwylliant y Byd
- Josquin a'i gyfoeswyr
- Ligeti
- Michael Nyman
- Minimaliaeth
- Symffoni'r 19eg Ganrif
- Tonyddiaeth Heddiw
- Tri Chyfansoddwr Cymreig Cyfoes: Metcalf, Samuel a Barrett
Mae'r pynciau'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer bydd y modiwl yn dechrau gyda chyflwyniad i'r pwnc, ac yna archwiliad manwl o agweddau arno, gyda chefnogaeth darllen cyd-destunol / gwrando a dehongliadau. Bydd yr union faes llafur yn newid yn dibynnu ar y pwnc, ond fel arfer bydd yn cynnwys agweddau fel:
- Cyd-destunau diwylliannol cyfoes
- deall y testunau cerddorol cysylltiedig (a'r cyd-destunau)
- derbyniad
- beirniadaeth
Assessment Strategy
Trydydd dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyflawniad hollbwysig yw arddangos gafael sylfaenol ar hanfod y pwnc, a'r math o ddeunydd dan sylw. Fodd bynnag, bydd y marc yn cael ei gyfyngu i'r lefel hon gan bethau fel: ailadrodd gwybodaeth heb ddangos dealltwriaeth go iawn; dryswch dadl sy'n dangos methiant i ddeall y deunydd yn iawn; methu gwahaniaethu'r perthnasol oddi wrth yr amherthnasol; methu gafael mewn syniadau; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau llyfryddiaethol neu droednodi difrifol ddiffygiol; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyniad bratiog.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y briodwedd sy'n cyfiawnhau marciau yn y categori hwn yw’r gallu i gywain corff cymedrol o ddeunydd perthnasol a gasglwyd o ystod tra eang o destunau neu ffynonellau gwybodaeth eraill, wedi'i ddidoli mewn trefn resymegol a'i fynegi'n ddeallus. Elfennau sy'n cyfyngu'r marc i'r lefel hon yw: dadleuon afresymegol, neu ddadl sy'n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadlau; tystiolaeth gyfyngedig o wybodaeth a dealltwriaeth eang o'r pwnc; ymwneud cyfyngedig â thrafod ac ail-negodi syniadau ar lafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl o ddifrif, yn hytrach na dyfalbarhad syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y briodwedd nodedig yw'r gallu i lunio dadl â ffocws sydd â thystiolaeth briodol. Mae'n debyg y bydd y gwaith felly'n dangos y gallu i ddeall trafod gwaith celf ac i gymhwyso'r wybodaeth honno i wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o'r pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o wybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd penodol; sgiliau llyfryddiaethol a throednodi cymwys; cyfathrebu effeithiol o syniadau a dadlau; cyfraniad meddylgar at drafodaeth lafar; y gallu i weld problemau a gwrthddywediadau wrth ddarllen ffynhonnell; sgiliau wrth arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o'r un rhinweddau a’r rhai mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant yn cael eu dangos ar lefel llai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn rhagorol mewn un nodwedd Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- ac A (70%-83%) Y briodwedd wahaniaethol yw’r gallu i arddangos tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol go iawn mewn trafodaeth barhaus. Mae'n debyg y bydd gwaith ar y lefel hon yn dangos menter wrth ymchwilio y tu hwnt i'r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau’n feirniadol; trafodaeth barhaus a rhesymegol; mynegiant rhugl wrth siarad ac ysgrifennu; y gallu i ddod â deunydd o ffynonellau anghydweddol at ei gilydd; sgiliau o radd uchel wrth arsylwi a dadansoddi; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i oleuo testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i gyfyngiadau cul y pwnc dan sylw; y gallu i arwain trafodaeth lafar; y gallu i adnabod ac wynebu problemau yn y pwnc, gwrthddywediadau mewn testunau, neu lacunae yn y dystiolaeth sydd ar gael.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae'r gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy'n cyrraedd neu'n agosáu at safonau proffesiynol. Bydd y gwaith yn arddangos holl nodweddion categori A-/A (70%-83%) mewn modd cyson, a bydd o'r fath ansawdd fel ei fod yn fwy neu lai’n barod i’w gyhoeddi neu’i ddarlledu fel ag y mae, neu fel ei fod â'r potensial i'w gyhoeddi neu ei ddarlledu gyda diwygiadau yn y cyflwyniad.
Learning Outcomes
- Cymhwyso cysyniadau a syniadau sy'n codi o ysgolheictod i gyd-destunau newydd.
- Cymhwyso sgiliau dadansoddi cerddoriaeth, ymchwil seiliedig ar ffynonellau, a meddwl beirniadol mewn perthynas â'r gerddoriaeth a astudir.
- Trafod syniadau a chysyniadau sy'n ymwneud â phynciau penodol mewn hanes a diwylliant cerddoriaeth.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad: bydd myfyrwyr yn rhoi eu cyflwyniadau yn ystod y semester ar ddyddiad i'w gytuno gyda thiwtor y modiwl.
Weighting
40%
Due date
20/12/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd: rhoddir rhestr o gwestiynau yn llawlyfr y modiwl, fydd ar gael o ddechrau'r semester. Bydd y cwestiynau'n caniatáu ichi ddangos eich ymgysylltiad â'r pwnc ehangach a'ch dealltwriaeth ohoni, a llenyddiaeth ysgolheigaidd gysylltiedig. Cyflwynir y traethawd ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod asesu (h.y. dydd Llun wythnos 13).
Weighting
60%
Due date
13/01/2025
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Formative
Description
Cynllun cyflwyno Amlinelliad o'r cyflwyniad a llyfryddiaeth o leiaf 6 eitem berthnasol.
Weighting
0%
Due date
06/12/2024