Module WXC-3277:
Traethawd Hir
Traethawd Hir 2023-24
WXC-3277
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Pwyll ap Sion
Overview
Mae'r traethawd hir yn ddarn o ysgrifennu annibynnol ar destun a ddewisir gan yr ymgeisydd mewn ymgynghoriad ag aelod staff a gymeradwyir gan gydlynydd y modiwl. Cymeradwyir teitl a thestun y traethawd yn ystod tymor yr haf yn union cyn Blwyddyn 3.
Fe ddylai'r traethawd ateb un neu fwy o gwestiynau ymchwil penodol. Dylai'r ysgrifennu gymeryd i ystyriaeth ymchwil flaenorol berthnasol, ond dylai hefyd ddangos gwreiddioldeb meddwl o ran y dull o ymdrin a'r deunydd a'r ddadl. Rhoddir credyd am ansawdd y syniadau, eglurder a rhesymeg y ddadl, addasrwydd y ffynonellau llyfryddiaethol, a mireinder y cyflwyniad.
I gyd-fynd â'r traethawd hir ceir seminarau ar y sgiliau ymchwil, llyfryddiaeth a methodoleg sydd eu hangen i ysgrifennu'r traethawd hir.
Mae'r traethawd hir yn ddarn o ysgrifennu annibynnol ar destun a ddewisir gan yr ymgeisydd mewn ymgynghoriad ag aelod staff ac a gymeradwyir gan gydlynydd y modiwl. Dylai'r ysgrifennu gymeryd i ystyriaeth ymchwil flaenorol berthnasol, ond arddangos gwreiddioldeb meddwl o ran dull ymdrin â'r ddadl. Rhoddir credyd am ansawdd syniadau, eglurder a rhesymeg y ddadl, addasrwydd llyfryddiaeth a mireinder y cyflwyniad.
I gyd-fynd â'r traethawd hir ceir seminarau ar y sgiliau ymchwil, llyfryddiaeth a methodoleg sydd eu hangen i ysgrifennu'r traethawd hir.
Nôd ag amcanion y modiwl: • Adeiladu ar y sgiliau cerddolegol a ddatblygwyd ym Mlwyddyn 2 • Meithrin a datblygu gwreiddioldeb a chrebwyll deallusol • Datblygu sgiliau sy'n ymwneud â materion o bwys i gerddoleg gyfredol, ethnogerddolegol a/neu ddadansoddi cerddorol • Datblygu sgiliau wrth ddefnyddio deunydd ysgolheigaidd cynradd ac eilaidd • Gwella sgiliau yn ymwneud â dadl, ysgrifennu, a chyflwyniad
Assessment Strategy
Trydydd dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyflawniad hollbwysig yw arddangos gafael sylfaenol ar hanfod y pwnc, a'r math o ddeunydd dan sylw. Fodd bynnag, bydd y marc yn cael ei gyfyngu i'r lefel hon gan bethau fel: ailadrodd gwybodaeth heb ddangos dealltwriaeth go iawn; dryswch dadl sy'n dangos methiant i ddeall y deunydd yn iawn; methu gwahaniaethu'r perthnasol oddi wrth yr amherthnasol; methu gafael mewn syniadau; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau llyfryddiaethol neu droednodi difrifol ddiffygiol; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyniad bratiog.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y briodwedd sy'n cyfiawnhau marciau yn y categori hwn yw’r gallu i gywain corff cymedrol o ddeunydd perthnasol a gasglwyd o ystod tra eang o destunau neu ffynonellau gwybodaeth eraill, wedi'i ddidoli mewn trefn resymegol a'i fynegi'n ddeallus. Elfennau sy'n cyfyngu'r marc i'r lefel hon yw: dadleuon afresymegol, neu ddadl sy'n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadlau; tystiolaeth gyfyngedig o wybodaeth a dealltwriaeth eang o'r pwnc; ymwneud cyfyngedig â thrafod ac ail-negodi syniadau ar lafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl o ddifrif, yn hytrach na dyfalbarhad syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y briodwedd nodedig yw'r gallu i lunio dadl â ffocws sydd â thystiolaeth briodol. Mae'n debyg y bydd y gwaith felly'n dangos y gallu i ddeall trafod gwaith celf ac i gymhwyso'r wybodaeth honno i wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o'r pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o wybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd penodol; sgiliau llyfryddiaethol a throednodi cymwys; cyfathrebu effeithiol o syniadau a dadlau; cyfraniad meddylgar at drafodaeth lafar; y gallu i weld problemau a gwrthddywediadau wrth ddarllen ffynhonnell; sgiliau wrth arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o'r un rhinweddau a’r rhai mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant yn cael eu dangos ar lefel llai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn rhagorol mewn un nodwedd Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- ac A (70%-83%) Y briodwedd wahaniaethol yw’r gallu i arddangos tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol go iawn mewn trafodaeth barhaus. Mae'n debyg y bydd gwaith ar y lefel hon yn dangos menter wrth ymchwilio y tu hwnt i'r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau’n feirniadol; trafodaeth barhaus a rhesymegol; mynegiant rhugl wrth siarad ac ysgrifennu; y gallu i ddod â deunydd o ffynonellau anghydweddol at ei gilydd; sgiliau o radd uchel wrth arsylwi a dadansoddi; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i oleuo testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i gyfyngiadau cul y pwnc dan sylw; y gallu i arwain trafodaeth lafar; y gallu i adnabod ac wynebu problemau yn y pwnc, gwrthddywediadau mewn testunau, neu lacunae yn y dystiolaeth sydd ar gael.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae'r gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy'n cyrraedd neu'n agosáu at safonau proffesiynol. Bydd y gwaith yn arddangos holl nodweddion categori A-/A (70%-83%) mewn modd cyson, a bydd o'r fath ansawdd fel ei fod yn fwy neu lai’n barod i’w gyhoeddi neu’i ddarlledu fel ag y mae, neu fel ei fod â'r potensial i'w gyhoeddi neu ei ddarlledu gyda diwygiadau yn y cyflwyniad.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd y myfyrwyr yn gallu arddangos annibyniaeth barn a dyfnder meddwl.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd y myfyrwyr yn gallu arddangos sgiliau cyfathrebu treiddgar, gan ddefnyddio dulliau safonol cydnabyddedig.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd y myfyrwyr yn gallu arddangos sgiliau wrth chwilio am ddeunyddiau ysgolheigaidd gwreiddiol ac eilaidd a’u defnyddio.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd y myfyrwyr yn gallu cyflawni ymholiadau annibynnol cynaledig.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd y myfyrwyr yn gallu dyfeisio, cynllunio a chyflawni project ymchwil o ddechrau i'r diwedd.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd hir o oddeutu 10,000 o eiriau (heb gynnwys llyfryddiaeth a throednodiadau) ar destun o ddewis y myfyriwr wedi ei gymeradwyo gan gydlynydd y modiwl. I'w gyflwyno yn ystod y cyfnod asesu yn Semester 2.
Weighting
80%
Due date
02/05/2024
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar o oddeutu 15 munud ar destun y traethawd hir. I'w gyflwyno yn ystod cyfnod asesu Semester 1.
Weighting
10%
Due date
15/01/2024
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad interim
Weighting
10%
Due date
08/01/2024