Module WXC-3305:
Genres a Chyfansoddwyr C
Genres a Chyfansoddwyr C 2022-23
WXC-3305
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Cynigir o leiaf tri phwnc; mae myfyrwyr yn dewis un ohonynt. Mae'r dewis o bwnciau'n newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r rhestr ganlynol yn dangos yr amrywiaeth o opsiynau a all fod ar gael dros Genres a Chyfansoddwyr A a C. Nodir yr opsiynau sydd ar gael yn 2019-20 â seren isod.
- Adfywiadau Cerdd
- Y Beatles
- Beethoven a'r Pedwarawd Llinynnol
- Cage a Cherddoriaeth Arbrofol
- Celfyddyd Serch Llys
- Y Ffidil yn Niwylliant y Byd*
- Josquin a'i gyfoeswyr
- Ligeti
- Michael Nyman
- Minimaliaeth
- Symffoni'r 19eg Ganrif
- Tonyddiaeth Heddiw*
- Tri Chyfansoddwr Cymreig Cyfoes: Metcalf, Samuel a Barrett*
Assessment Strategy
-threshold -D– i D+: Gwaith sy’n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o’r pwnc a ddewiswyd, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
-good -C– i B+: Gwaith sy'n dangos dealltwriaeth gadarn o’r pwnc a ddewiswyd, lefel dda o feddwl cysyniadol ac o werthuso, ymwybyddiaeth dda o’r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
-excellent -A– i A**: Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc a ddewiswyd, gyda thystiolaeth o astudiaeth fwy trylwyr, lefelau uwch o feddwl deallusol, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
Learning Outcomes
- Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu syniadau ynglŷn â'r gerddoriaeth a astudiwyd mewn arddull sydd yn gymesurol â phrotocoliau cerddolegol proffesiynol.
- Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o bynciau penodol mewn hanes a diwylliant cerddoriaeth, a gallu gwerthuso hyn mewn perthynas â'u gwybodaeth ehangach.
- Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu gweithredu sgiliau uwch o ddadansoddi cerddoriaeth, ymchwilio trwy ddefnyddio ffynonellau, meddwl yn feirniadol, a meddwl yn gysyniadol mewn perthynas â'r gerddoriaeth a astudiwyd.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad: rhoddir y cyflwyniad mewn seminar ar ddyddiad i'w gytuno gyda thiwtor y modiwl.
Weighting
25%
Due date
16/12/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd: rhoddir cwetiynau traethawd penodol yn llawlyfr y modiwl ar ddecchrau'r modiwl.
Weighting
75%
Due date
09/01/2023