Module XAC-2029:
Plant mewn Argyfwng
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
10.000 Credits or 5.000 ECTS Credits
Semester 1
Overall aims and purpose
Archwilio effeithiau materion byd-eang cyfredol ar les a datblygiad plant o fewn amrediad o gyd-destunau a phersbectifau gwahanol.
Course content
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar heriau moesol, moesegol, economaidd a gwleidyddol yr 21ain ganrif mewn perthynas â diystyru hawliau ac anghenion plant o fewn cyd-destunau gwahanol, gan gynnwys: Plant fel ceiswyr lloches, ymfudwyr economaidd, a ffoaduriaid; plant fel caethweision, llafur plant, a llafur rhad; plant yn filwyr ac yn amddifad oherwydd rhyfel; plant sydd wedi eu hecsbloetio’n rhywiol gan gynnwys merched; plant mewn gwrthdaro diwylliannol a chrefyddol a gweithredoedd terfysgol; plant ag AIDS a phlant yn byw mewn tlodi;
Hefyd bydd y modiwl yn ymchwilio i swyddogaeth llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol mewn ymyrryd ac eiriol er mwyn creu newid cymdeithasol a chyfiawnder a thegwch i blant mewn argyfwng gan gynnwys edrych yn fanwl ar adroddiadau diweddar ar les plant.
Assessment Criteria
threshold
Yn dangos dealltwriaeth foddhaol o'r prif faterion. Yn dangos y gallu i drafod, dadansoddi, a gwerthuso deunydd priodol.good
Yn dangos dealltwriaeth dda o'r rhan fwyaf o'r prif faterion. Yn dangos gallu da i drafod, dadansoddi, a gwerthuso, ac i roi enghreifftiau perthnasol.excellent
Yn dangos dealltwriaeth a barn gynhwysfawr o'r prif faterion. Yn dangos gallu ardderchog i drafod, dadansoddi, a gwerthuso gydag aeddfedrwydd ac i roi enghreifftiau addas a chymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd a chyd-destunau eraill.Learning outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus 1. gyda dealltwriaeth dda o ddylanwad materion byd-eang cyfredol, mewn amryw wledydd ar draws y byd datblygedig a datblygol, ar anghenion a datblygiad plant yn gymdeithasol, amgylcheddol, ac addysgol; 2. yn gallu adnabod a gwerthfawrogi y ffactorau economaidd a gwleidyddol allweddol sy'n cydadweithio mewn gwledydd sy'n camdrin hawliau plant; 3. yn deall y cysyniad o ddadleuaeth mewn cyswllt â hawliau ac addysg plant; 4. yn gallu gwerthuso gwaith llywodraethau a chyfundrefnau amrywiol wrth ddarparu ymyrraeth a dadleuaeth ar gyfer plant mewn argyfwng; 5. yn gallu gwerthfawrogi ac adfyfyrio ar sut mae grwpiau gwirfoddol, ynunigol, yn seiliedig ar y gymuned, ac yn rhyngwladol, yn achosi newid cymdeithasol yn lleol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd 2000 Gair | 100.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Un sesiwn dwy awr yr wythnos am gyfnod o 11 wythnos. Cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, cyflwyniadau, gweithdai, darllen dan gyfarwyddyd, a pharatoi ar gyfer asesiadau. |