Module XAC-2033:
Ymchwilio mewn Plentyndod
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Nia Williams
Overall aims and purpose
Bwriad y modiwl yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r fframweithiau a’r methodolegau theoretig sydd yn sail i ddulliau ymchwil ym maes plentyndod ac addysg. Mae’n edrych ar sut y defnyddir methodoleg i gynhyrchu tystiolaeth gadarn a sut i ddefnyddio'r dystiolaeth at bwrpasau dadansoddi. Eglurir y camau priodol i’w dilyn wrth gynnal ymchwil moesegol gyda phlant a rhoddir arweiniad ar sut i ddefnyddio sgiliau gwahanol i ymchwilio a chyflwyno canfyddiadau mewn adroddiad ymchwil. Bydd myfyrwyr yn llunio cynnig ymchwil, trwy drafod gyda goruchwyliwr – gan nodi’n eglur y fethodoleg a ddefnyddir a sut y bydd hynny’n dylanwadu ar eu dull gweithio. Mae’r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer modiwl y traethawd hir XAC3023 yn y BA Astudiaethau Plentyndod.
Course content
Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol:
• damcaniaethau ymchwil, sgiliau ysgrifennu traethawd hir, a dewis y fethodoleg gywir ar gyfer maes ymchwil y myfyrwyr;
• prif ddulliau casglu data, gan gynnwys dogfennau, ffotograffau, cyfweliadau, astudiaethau achos, grwpiau ffocws, holiaduron a dulliau ethnograffig.
• enghreifftiau o ymchwil y darlithydd ei hun ac o waith arall yn yr Ysgol gan gynnwys profiadau ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol.
• seiliau athronyddol ymchwil, trafod ac egluro natur traethawd hir a chanfod a dewis maes astudio;
• y prif gysyniadau sydd dan sylw wrth lunio’r cwestiynau i’w hastudio a ffurfio rhagdybiaeth.
Assessment Criteria
threshold
Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg a dylunio a chyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil.
good
Gwybodaeth a dealltwriaeth da o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas a dylunio a chyflwyno cynnig cadarn ar gyfer prosiect ymchwil.
excellent
Gwybodaeth cynhwysfawr a dealltwriaeth dwfn o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas o ystod o ffynonellau, a dylunio a chyflwyno cynnig cytnhwysfawr a chaboledig ar gyfer prosiect ymchwil.
Learning outcomes
-
Cyflwyno areithiau parod a byrfyfyr yn hyderus ac yn gymwys
-
Trafod yn feirniadol gwahanol ddulliau ymchwil, a gallu adfyfyrio’n feirniadol ar eu cyfyngiadau a’u manteision mewn perthynas ag ystod o gyd-destunau;
-
Gwerthuso damcaniaethau a dadleuon allweddol mewn methodoleg ymchwil a arddangos dealltwriaeth o sut maent yn berthnasol i ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc.
-
Arddangos dealltwriaeth beirniadol o’r ystod o ystyriaethau moesegol wrth wneud ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc a gallu gwerthuso’r gwahanol ddulliau;
-
Arddangos dealltwriaeth o arwyddocâd dulliau ymchwil ansoddol a meintiol;
-
Arddangos dealltwriaeth beirniadol o gynnwys adroddiad ymchwil da;
-
Cynllunio cynnig ymchwil, gan gynnwys dethol dulliau ymchwil priodol, ar bwnc sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Prosiect Ymchwil | 50.00 | ||
Cynnig Ymchwil | 40.00 | ||
Bangor Oral Presentation Scheme | 10.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | 1 x darlith 1.5 awr yr wythnos yn ystod Semester 1. Bydd Semester 2 ar ffurf goruchwyliaeth ymchwil gyda'ch goruchwyliwr ymchwil, |
33 |
Private study | Dallen ychwanegol yn gysylltiedig gyda'r modiwl a'ch maes ymchwil penodol Astudio annibynnol ar gyfer aseiniad 1 a 2 |
155 |
Practical classes and workshops | Sesiynau wythnosol 1 awr dan arweiniad cyfoedion |
12 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 2 (BA/API)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 2 (BA/CYS)