Module XAC-2065:
Rheolaeth Meithrinfa
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Miss Rowena Hughes-Jones
Overall aims and purpose
Disgrifiad o’r Modiwl – y Pwrpas neu’r Amcanion:
Dylid nodi pwrpas y modiwl, ei le ym manyleb y rhaglen a’r hyn y mae’n anelu at ei ddarparu. Cofnodir hwn o dan y modiwl yn y Blwyddlyfr.
Mae’r modiwl yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu am yr agwedd reoli ar weithio mewn meithrinfa sy'n darparu gofal i blant hyd at 5 oed. Ym mhob semester bydd y myfyrwyr yn cael darlithoedd rhagarweiniol ac yna byddant yn treulio amser mewn meithrinfa i weld sut mae cymhwyso'r theori'n ymarferol.
Course content
Mae’r rhan gyntaf yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio fel tîm mewn meithrinfa. Bydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddysgu sut i greu amgylchedd sy'n rhoi gofal ac yn ysgogi plant a sut mae staff ac asiantaethau yn gallu cyfrannu at hyn. Edrychir yn fanwl ar swyddogaeth asiantaethau perthnasol ynghyd â’r cysylltiadau ag ysgolion cynradd. Bydd myfyrwyr yn edrych ar wahanol strategaethau adeiladu tîm a sut i gynnal asesiadau staff rheolaidd. Byddwn yn astudio dulliau recriwtio staff hefyd.
Mae’r ail ran yn canolbwyntio ar sut mae meithrinfeydd yn gorfod cadw at reoliadau. Bydd y rhain yn cynnwys rheoliadau amgylcheddol, iechyd a diogelwch, a thân. Bydd yn rhoi arweiniad hefyd ar sut i reoli cyllideb a sicrhau bod y feithrinfa yn gwneud elw a sut i drefnu digwyddiadau marchnata a chyhoeddusrwydd Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i gwblhau tasgau gweinyddol megis cynnal a chadw cofnodion staff a phlant. Mae'r modiwl yn canolbwyntio hefyd ar y Ddeddf Plant ac ar Safonau Cenedlaethol Estyn /Ofsted ar gyfer darparwyr gofal dydd.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy Dangos y deilliannau dysgu’n foddhaol.good
Da Yn dangos dealltwriaeth dda o’r prif faterion dan sylw ac yn dangos gallu da i i drafod, dadansoddi a gwerthuso, a darparu enghreifftiau perthnasol.excellent
Rhagorol Yn dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o’r materion pwysicaf ac yn dangos gallu ardderchog i drafod, dadansoddi a gwerthuso mewn modd aeddfed a darparu enghreifftiau perthnasol ac i gymhwyso gwybodaeth i sefyllfaoedd a chyd-destunau eraill.Learning outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwneud y canlynol: adnabod y prif elfennau sy’n cyfrif fel ymarfer gweithio da mewn meithrinfa;
- Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd gwaith tîm mewn meithrinfa;
- gwerthuso mewnbwn asiantaethau allanol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Portffolio Meithrinfa | 50.00 | ||
Portffolio Asiantaethau | 50.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Oriau Dysgu Tybiannol: a) Amser Cyswllt - e.e. yn y dosbarth, neu waith maes 44 awr (b) Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau 156 awr Cyfanswm 200 awr Patrwm y Dysgu: Darlithoedd ……………20……….. Awr Sesiynau Labordai neu Sesiynau Ymarferol ........................................ Awr Lleoliad ……………24…… Awr Strategaeth Addysgu: 1. 10 awr x 2 awr 20 awr 2. 4 diwrnod lleoliad mewn meithrinfa @ 6 awr y dydd 24 awr |