Module XAC-3050:
Seicoleg Plentyndod a Throseddu
Seicoleg Plentyndod a Throseddu 2023-24
XAC-3050
2023-24
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Nia Williams
Overview
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wahanol achosion o droseddu fel llofruddiaeth, cipio plant, trais rhywiol ac ati a bydd myfyrwyr yn trafod yn feirniadol y ffactorau, y strategaethau atal, a'r strategaethau ymyrryd ar gyfer plant fel troseddwyr a dioddefwyr. Bydd y modiwl hefyd yn ymchwilio i blant sydd dan amheuaeth, cyfrifoldeb troseddol, cyfaddefiad ffug ac awgrymiadedd.
Learning Outcomes
- Cydweithio â thîm neu'n unigol i gynhyrchu rhaglen ddogfen yn seiliedig ar ffeil achos go iawn.
- Dangos dealltwriaeth drylwyr am achos gwahanol ymddygiadau troseddol a dadansoddi gwahanol achosion yn feirniadol yn seiliedig ar ddamcaniaethau a gwybodaeth ar sail tystiolaeth.
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o'r system gyfiawnder bresennol, y broses dreial a thystiolaeth llygad dystion.
- Dangos hyfedredd mewn o leiaf dau faes fel rhan o dîm gwneud ffilmiau, yn cynnwys: cynhyrchu, rheoli, ysgrifennu i'r sgrin, cyfarwyddo, golygu, sain, effeithiau arbennig ac ymchwil.
- Datblygu dealltwriaeth drylwyr a beirniadol o effaith troseddu ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
- Deall gwahanol ffactorau seicolegol a damcaniaethau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol a gwerthuso'n feirniadol ymyriadau ar sail tystiolaeth a ddefnyddir ar hyn o bryd i leihau ymddygiad troseddol.
- Yn seiliedig ar ddamcaniaethau ac achosion blaenorol, datblygu dealltwriaeth drylwyr o gyd-destun cymdeithasol ehangach troseddu yn ystod plentyndod a llencyndod ac ystyried effaith agweddau cymdeithasol ar droseddau plant.
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf yn y ddarlith
Weighting
50%
Assessment type
Crynodol
Description
Ffilm newyddiadurol i achos troseddau penodol
Weighting
50%