Module XCC-1010:
Astudiaethau Proffesiynol 1
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Ms Elin Williams
Overall aims and purpose
Mae'r modiwl yn ymdrin â deall datblygiad ac anghenion y plentyn, ynghyd â chyfrifoldebau proffesiynol sylfaenol yr athro/athrawes. Mae'n codi ymwybyddiaeth yr hyfforddeion o fframwaith y Cyfnod Sylfaen a dogennau cynllunio perthnasol eraill. Cyflwynir y safonau (Dod yn Athro cymwysiedig cylchlythyr 017/2009) sy’n ddisgwyliedig ar gyfer athrawon cymwys, a'r gofynion proffesiynol, ac yn eu paratoi ar gyfer Profiad Ysgol.
Course content
- Hawliau'r plentyn fel dinesydd lleol a byd-eang ynghyd â'i anghenion fel dysgwr.
- Datblygiad gwybyddol, ieithyddol, emosiynol, moesol ac ysbrydol, creadigol, corfforol, a chymdeithasol a’i effaith ar y dysgu ac addysgu mewn cyd-destun cynhwysol.
- Trosolwg o wahanol arddulliau dysgu plant a goblygiadau hyn wrth gynllunio ac wrth weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
- Cyfrifoldebau'r person proffesiynol mewn perthynas â sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu priodol ac ethos positif.
- Model addysgu’r Cyfnod Sylfaen. Beth sy’n gwneud athro rhagorol o fewn y model?
- Arsylwi dadansoddol ar blant yn dysgu, cofnodi'n effeithiol, a defnyddio arsylwadau er mwyn perthnasu'r dysgu ac addysgu i anghenion plant.
- Y broses o gynllunio ar gyfer cyflwyno profiadau eang, heriol, a chyfoethog i blant: datblygu cynlluniau gwaith tymor hir a byr, gwersi, a thasgau priodol.
- Diogelu plant – beth yw goblygiadau y drefn amddiffyn plant a rôl y Comisynydd Plant. Cyflwynir hyn ynghyd ag agweddau Iechyd a Diogelwch yn ystod yr wythnos broffesiynol.
Assessment Criteria
threshold
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o hawliau'r plentyn fel dinesydd lleol a byd-eang ynghyd â'i anghenion fel dysgwr.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o ddatblygiad gwybyddol, ieithyddol, emosiynol, moesol ac ysbrydol, creadigol, corfforol, a chymdeithasol a’i effaith ar y dysgu ac addysgu mewn cyd-destun cynhwysol.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r gwahanol arddulliau dysgu plant a goblygiadau hyn i gynllunio.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o gyfrifoldebau'r person proffesiynol mewn perthynas â sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu priodol ac ethos bositif.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o fodel addysgu’r Cyfnod Sylfaen.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o arsylwi dadansoddol ar blant yn dysgu, cofnodi'n effeithiol, a defnyddio arsylwadau er mwyn perthnasu'r dysgu ac addysgu i anghenion plant.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r broses o gynllunio ar gyfer cyflwyno profiadau eang, heriol, a chyfoethog i blant: datblygu cynlluniau gwersi a thasgau priodol.
good
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o hawliau'r plentyn fel dinesydd lleol a byd-eang ynghyd â'i anghenion fel dysgwr.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o ddatblygiad gwybyddol, ieithyddol, emosiynol, moesol ac ysbrydol, creadigol, corfforol, a chymdeithasol a’i effaith ar y dysgu ac addysgu mewn cyd-destun cynhwysol.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o’r gwahanol arddulliau dysgu plant a goblygiadau hyn i gynllunio.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gyfrifoldebau'r person proffesiynol mewn perthynas â sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu priodol ac ethos bositif.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o fodel addysgu’r Cyfnod Sylfaen.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o arsylwi dadansoddol ar blant yn dysgu, cofnodi'n effeithiol a defnyddio arsylwadau er mwyn perthnasu'r dysgu ac addysgu i anghenion plant.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o’r broses o gynllunio ar gyfer cyflwyno profiadau eang, heriol, a chyfoethog i blant: datblygu cynlluniau gwersi, a thasgau priodol.
excellent
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o hawliau'r plentyn fel dinesydd lleol a byd-eang ynghyd â'i anghenion fel dysgwr.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddatblygiad gwybyddol, ieithyddol, emosiynol, moesol ac ysbrydol, creadigol, corfforol, a chymdeithasol a’i effaith ar y dysgu ac addysgu mewn cyd-destun cynhwysol.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o’r gwahanol arddulliau dysgu plant a goblygiadau hyn i gynllunio.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gyfrifoldebau'r person proffesiynol mewn perthynas â sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu priodol ac ethos bositif.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o fodel addysgu’r Cyfnod Sylfaen.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o arsylwi dadansoddol ar blant yn dysgu, cofnodi'n effeithiol, a defnyddio arsylwadau er mwyn perthnasu'r dysgu ac addysgu i anghenion plant.
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o’r broses o gynllunio ar gyfer cyflwyno profiadau eang, heriol, a chyfoethog i blant: datblygu cynlluniau gwersi a thasgau priodol.
Learning outcomes
-
Yn deall hawliau'r plentyn fel dinesydd;
-
Yn gwerthfawrogi anghenion y plentyn fel dysgwr mewn perthynas â'i ddatblygiad holistig;
-
Yn gwerthfawrogi beth a ddisgwylir gan berson proffesiynol, adfyfyriol yn sefydlu a chynnal awyrgylch gwaith pwrpasol drwy feithrin perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol;
-
Yn ymwybodol o fframwaith y Cyfnod Sylfaen yn ei ehangder;
-
Yn gallu cynllunio ar gyfer gofynion Profiad Ysgol (Lefel 4) a gwerthuso'r dysgu ac addysgu.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Aseiniad 2000 gair | 30.00 | ||
Aseiniad 4000 gair | 70.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd Rhyngweithiol : 21 awr (14@1½ awr wythnosol) |
||
Lleoliad mewn sefyllfa addysgiadol amgen : 30 awr ( 5 diwrnod x 6 awr@ ar derfyn Semester 2) |
||
Sesiynau Wythnos Broffesiynol : 20 awr (4 diwrnod x 4½ awr, 1 diwrnod x 2 awr) |